Donate

Bywyd LHDTC+ yng Nghymru: 2026

ae adroddiad newydd Stonewall, Bywyd LHDTC+ yng Nghymru: 2026, yn astudio bywydau pobl LHDTC+ ledled y wlad, gan ddogfennu profiadau o gydraddoldeb, perthyn, diogelwch, iechyd, gwaith a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Fel yr adroddiad sylweddol cyntaf o’i fath gan Stonewall ers 2018, mae’n datgelu bod llawer yn credu bod gwelliant wedi bod o ran derbyn pobl LHDTC+ dros y deng mlynedd diwethaf, ond mae hefyd yn dangos bod pesimistiaeth sylweddol am y dyfodol.