Trans Day of Remembrance: what is it and why is it needed?
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
candles in the dark

Diwrnod Coffa Pobl Draws: beth a pham?

Heddiw, 20 Tachwedd yw Diwrnod Coffa Pobl Draws, cafwyd ei sefydlu gan Gwendolyn Ann Smith yn 1999 i goffáu bywyd a marwolaeth Rita Hester, menyw draws ddu a lofruddiwyd yn Moston, Massachusetts.

Eleni, gwyddwn am 331 person draws a lladdwyd ledled y byd, heddiw, bydd Stonewall, cymunedau a sefydliadau LHDTC+ eraill o gwmpas y byd yn eu cofio. Gyda thristwch, mae'r niferoedd hyn yn cynnwys llofruddiaeth Amy Griffiths, menyw draws 51 oed, yn Droitwitch, Swydd Gaerwrangon, ym mis Ionawr eleni.

Ar raddfa fyd-eang, mae rhai cymunedau traws mewn mwy o berygl o drais angheuol nag eraill. Neb mwy felly na'r gymuned draws ym Mrasil, lle mae'r mwyafrif o lofruddiaethau o bobl draws wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf.

sylwir bod mwyafrif helaeth o'r rhai a laddwyd yn fenywod traws croen liw a phobl draws-fenywaidd croen liw.

 

Mae pob bywyd a gollir gyda amgylchiadau dinistriol unigol, ond sylwir bod mwyafrif helaeth o'r rhai a laddwyd yn fenywod traws croen liw a phobl draws-fenywaidd croen liw. Nodwyd y Trans Murder Monitoring Project, o'r pobl draws a lladdwyd eleni lle gwyddwn am eu proffesiynau, roedd 61% yn gweithio fel gweithwyr rhyw.

 

O’r holl fenywod draws a llofruddiwyd yn Ewrop, roedd y mwyafrif yn ymfudwyr.

 

O’r holl fenywod draws a llofruddiwyd yn Ewrop, roedd y mwyafrif yn ymfudwyr. Mae llawer o lofruddiaethau pobl draws yn digwydd mewn amgylchiadau sy’n cynnwys tlodi, hiliaeth, meddyflryd gwrth-fewnfudwyr, gwrth-weithiwyr ryw a gwreig gasineb (misogyny), sy'n amddifadu rhai cymunedau traws o adnoddau a diogelwch ac yn gwneud rhai mathau o bobl draws yn fwy agored i drais gwrywaidd yn enwedig.

Gyda thristwch, rhai pobl draws - yn enwedig menywod - sy'n wynebu'r risg fwyaf o drais angheuol gan ddynion cydryweddol sy’n bartneriaid agos, megis cariadon. Gall y stigma, gwrthodiad gan deulu, cyfleoedd cyflogaeth cyfyngedig ac unigedd cymdeithasol a brofir gan lawer o bobl draws eu gadael yn fwy agored yn benodol i gamdriniaeth mewn cydberthnasoedd. 

Canfyddwyd ymchwil Stonewall a YouGov, LGBT in Britain: Home and Communities (2018), fod 1 o bob 5 person draws wedi profi camdriniaeth domestig gan bartner yn y flwyddyn ddiwethaf – gan gynnwys 16% o fenywod traws. 

Fel sy'n wir i fenywod cydryweddol; menywod traws mewn cydberthnasau â dynion cydryweddol sydd o fwyaf peryg o'r mathau mwyaf difrifol o drais. Mae’n bwysig cydnabod, i lawer o fenywod traws, bod y profiad o drais rhwng partneriaid agos a chamdriniaeth domestig yn debyg o ran natur i’r profiadau a wynebir gan fenwyod eraill.

Mae trais yn erbyn pobl draws yn gysylltiedig ag epidemig ehangach o drais yn erbyn menywod

Mae trais yn erbyn pobl draws yn gysylltiedig ag epidemig ehangach o drais yn erbyn menywod. Dyma pam, ers 2018 rydym yn falch bod y sector menywod yng Nghymru wedi ymrwymo i gynhwysiant-traws mewn gwasanaethau sy'n darparu cymorth i oroeswyr trais domestig a rhywiol, yn dilyn datganiad gan elusennau menywod yn yr Alban yn 2017. 

Mewn llawer o achosion, mae trais yn erbyn pobl draws hefyd yn cael ei yrru gan ddelfrydau o wrywdod niweidiol (toxic masculinity) sy'n seiliedig ar homoffobia a deuffobia. Ar Ddiwrnod Coffa Pobl Draws, gall llawer ohonom, boed yn gydryweddol neu'n draws, fyfyrio ar sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i roi terfyn ar pob math o drais, aflonyddwch a gwahaniaethu sydd ar sail rhywedd.

Dyma restr o sefydliadau LHDT cynhwysol sy'n gweithio gyda phobl draws bregus yn y DU