Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Byd-eang | Stonewall
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Byd-eang

People at work

Hero box

Yr offeryn meincnodi awdurdodol ar gyfer cydraddoldeb LHDT yn y gweithle yn fyd-eang, sydd wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion penodol sefydliadau rhyngwladol.

Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Byd-eang

Mewn mwy na hanner gwledydd y byd, mae'n bosib nad yw pobl LHDT yn cael eu hamddiffyn gan gyfraith gweithle. 

Mae pobl LHDT yn wynebu gwahaniaethu ym mhob gwlad, ac mae perthnasau o'r un rhyw yn anghyfreithlon mewn mwy na 70 o wledydd. Mae hyn yn creu heriau cyfreithiol, moesegol ac ymarferol difrifol i gyflogwyr byd-eang. 

Mae anfon cyflwyniad i'r Mynegai Cydraddoldeb Byd-eang am ddim ac mae'n agored i unrhyw sefydliad rhyngwladol, sy'n eu galluogi i oresgyn yr heriau yma a gwneud cynnydd tuag at gydraddoldeb i bobl LHDT, waeth ble yn y byd maen nhw'n gweithredu. Gwahoddir sefydliadau sy'n cymryd rhan i ddweud wrthon ni am eu gwaith yn erbyn ystod o feini prawf. Mae pob adran yn helpu sefydliadau i hunanasesu eu cynnydd a nodi meysydd i'w blaenoriaethu. 

Cyflogwyr Byd-eang Gorau 2018 

Porwch drwy'r cyflogwyr gorau, enillwyr gwobrau a mwy 

Cyflwyniadau ar gyfer 2019 

Mae'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Byd-eang ar gau i dderbyn cyflwyniadau.

Prif fanteision cymryd rhan

Yr hyn mae ein cyfranogwyr yn ei ddweud

Left column

Vodafone LGBT + Friends Network © Vodafone

Right column

Vodafone

Quote wrapper

Rydyn ni am i'n cydweithwyr LHDT+ wybod y gallan nhw fod yn nhw eu hunain a phasio'r egni a'r brwdfrydedd yma i'r cymunedau a'r cwsmeriaid rydyn ni'n eu gwasanaethu. Mae ein staff wedi bod yn cymryd rhan angerddol a gweithredol yn ein hagenda cynhwysiant LHDT ac mae hyn yn gydnabyddiaeth wych am holl ymdrechion ein cydweithwyr ledled y byd.
Ronald Schellekens, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Grŵp

Pam cymryd rhan?

Asesu'ch gwaith 

Mae cymryd rhan yn eich helpu i asesu cyflawniadau a chynnydd eich sefydliad o ran cydraddoldeb LHDT ar draws eich holl weithrediadau byd-eang – gan sicrhau bod cynhwysiant o bobl LHDT yn annatod ymhob gwlad a rhanbarth.  

Derbyn cydnabyddiaeth

Caiff sefydliadau sy'n perfformio'n dda eu dathlu fel Cyflogwyr Byd-eang Gorau a gallent dderbyn nifer o wobrau ychwanegol. 

Dangos eich ymrwymiad 

Mae cymryd rhan yn ffordd wych o ddangos eich ymrwymiad i Safonau Ymddygiad newydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer busnes, ynghylch mynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl LHDT a Rhyngryw. Hyd yn oed os ydych chi wedi cwblhau ein Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, mae cwmpas y Mynegai Byd-eang yn rhoi cyfle i chi asesu eich cynnydd o ran cynhwysiant LHDT yn eich gweithleoedd ledled y byd. Gallwch hefyd gymharu eich perfformiad chi â sefydliadau byd-eang eraill. 

Adeiladu cynllun gweithredu

Mae Hyrwyddwyr Amrywiaeth Byd-eang Stonewall yn cael adborth manwl wedi'i deilwra gan ein harbenigwyr, a does dim cost i gymryd rhan. 

Rhagor o wybodaeth

Llwythwch ein llyfryn i lawr i ddarganfod 10 rheswm pwysig pam y dylech chi gymryd rhan. 

Gwneud cais am ragor o wybodaeth

powered by Typeform