Grym gweithleoedd cynhwysol | Stonewall
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Creu gweithleoedd cynhwysol

Colleagues working on laptops
Center Bottom

Hero box

Ymunwch â channoedd o sefydliadau ymroddedig sy'n rhyddhau potensial eu gweithwyr. Bydd ein rhaglen flaenllaw yn eich helpu i greu gweithle sy'n gynhwysol o bobl LHDT.

Grym gweithleoedd cynhwysol

Rydyn ni'n credu yng ngrym gweithle sy'n wirioneddol gynhwysol. Gweithleoedd lle mae pob gweithiwr LHDT yn cael ei dderbyn yn ddieithriad.

Ond allwn ni ddim cymryd cynhwysiant yn ganiataol. Mae'r cyflogwyr gorau yn deall yr angen i gymryd cynwysoldeb o ddifri. Maen nhw'n deall y dylai staff fod yn gallu bod yn agored am bwy ydyn nhw yn y gwaith. Maen nhw'n deall bod cynhwysiant yn arwain at ganlyniadau unigol, busnes a sefydliadol gwell.

Mae ein holl Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn rhannu'r gred gyffredin yma.

Sut ewch chi ati i gefnogi'ch gweithwyr LHDT?

Group 1

Group 2

Tickbox

Group 4

Person with tie (icon)

Ein Cyflogwr Gorau yn 2018

Left column

People networking at event

Right column

Y CYNULLIAD CENEDLAETHOL

Quote wrapper

Rydym yn falch o gefnogi ein rhwydwaith staff LHDT ac rydym yn parhau i weithio i greu diwylliant cynhwysol - nid yn unig i'r bobl sy'n gweithio yma ond i'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli ar draws cymunedau amrywiol Cymru gyfan.
Elin Jones, Aelod Cynulliad

LHDT yng Nghymru - Adroddiad Gwaith (2018)

Left column

LGBT in Britain - Work (front cover)
Colleagues working on laptops

Right column

Mae adroddiad Stonewall, sy'n seiliedig ar ymchwil YouGov gydag 800 o weithwyr LHDT, yn datgelu profiadau pobl LHDT yn y gweithle. Mae'r canfyddiadau'n cynnwys bod:

 

  • Traean y gweithwyr LHDT (34 y cant) wedi cuddio'r ffaith eu bod nhw'n LHDT yn y gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan eu bod yn ofni gwahaniaethu.
  • Tri ymhob deg o bobl draws (30 y cant) wedi wynebu sylwadau neu ymddygiad negyddol gan gydweithwyr oherwydd eu hunaniaeth.
  • Un ym mhob pedwar o bobl ddeurywiol (26 y cant) heb ddod allan wrth neb yn y gwaith