
Dyfarniadau Hyrwyddwyr Ysgolion Stonewall
Dysgwch fwy am y dyfarniadau Efydd, Arian ac Aur

Mae dyfarniadau Hyrwyddwyr Ysgolion Stonewall yn caniatáu i Hyrwyddwyr Ysgolion yn Lloegr feincnodi eu cynnydd yn effeithiol a rhoi cyfeiriad i'w gwaith presennol yn taclo bwlio homoffobaidd, deuffobaidd a thrawsffobaidd ac yn dathlu amrywiaeth, fel mantais o fod yn aelod.
Drwy gyflwyno tystiolaeth yn erbyn meini prawf Efydd, Arian neu Aur Stonewall, gall ein Swyddogion Addysg ddarparu adborth penodol i'ch ysgol ar y gwaith cynhwysiant rydych chi wedi'i wneud eisoes, a'ch helpu i osod targedau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Er mwyn gwneud cais am Ddyfarniad Ysgolion Stonewall, mae'n rhaid i chi fod yn aelod o'r rhaglenni Hyrwyddwyr Ysgolion Cynradd neu Uwchradd.
Yn dibynnu ar flwyddyn eich aelodaeth, gallech fod yn gymwys i gael Dyfarniad Efydd, Arian neu Aur:
Efydd - aelodaeth blwyddyn
Arian - aelodaeth dwy flynedd ac wedi cael dyfarniad Efydd
Aur - aelodaeth tair blynedd ac wedi cael dyfarniad Arian
Ceisiadau
Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer 2019, 30 Mehefin 2019 yw'r dyddiad cau. Gall aelodau Hyrwyddwyr Ysgolion Stonewall wneud cais yma.
Dod o hyd i Feini Prawf Hyrwyddwyr Ysgolion Cynradd ac Uwchradd:
[doc1]
[doc2]