Sut mae COVID-19 yn effeithio ar bobl LHDT?
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
A group of people chatting on a sofa and laughing.

Sut mae COVID-19 yn effeithio ar bobl LHDT?

Mae bywyd pob un ohonon ni wedi newid yn ddiweddar.

Ond mae rhai pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT) yn diodde'n waeth nag eraill yn sgil ymbellhau cymdeithasol. Mae'n gliriach nag erioed nad moethusrwydd yw cydraddoldeb; mae'n hanfodol i ddiogelwch, iechyd a lles pawb.

#ArhoswchMewnDrosLGBT

Beth os nad yw'n ddiogel aros gartre? Mae bron i chwarter y bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn LHDT, a hynny fel arfer am fod eu teuluoedd yn eu gwrthod. Mae mwy nag un ym mhob deg o bobl LHDT wedi wynebu cam-drin domestig gan bartner, ac mae hynny'n codi i 19 y cant ar gyfer pobl draws.

Neu beth os nad yw eich cartref yn cael ei gydnabod hyd yn oed? Yn ôl LGBT Traveller Pride, sef casgliad o Deithwyr LHDT o dan arweiniad y gymuned, mae hwn yn gyfnod arbennig o anodd i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

[Y rheswm am hyn yw] amodau gwael i bobl grwydrol... neu am eu bod yn wynebu arwahanrwydd a rhagfarn systemig.

LGBT Traveller Pride

Neu beth os ydych wedi gorfod ffoi o'ch cartref? Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid LHDT yn aros mewn ystafelloedd cyfyng gyda dieithriaid, gan beryglu eu bywydau. Maen nhw eisoes yn wynebu cwestiynau busneslyd am eu ffydd, eu hil a'u hunaniaeth LHDT wrth geisio lloches ym Mhrydain. 

Mynd allan heb ofn

Nid pawb sy'n gallu gwneud ymarfer corff gartref; does gan bawb ddim gardd nac ystafell sbâr.

Mae ganddon ni hawl i wneud ymarfer corff unwaith y dydd, a gwneud teithiau hanfodol yn ôl disgresiwn yr heddlu. Mae pobl groenliw LHDT yn fwy tebygol o brofi gwahaniaethu. Maen nhw ddwywaith yn fwy tebygol na phobl wyn LHDT o fynd i leoliadau neu ddigwyddiadau sy'n benodol i bobl LHDT, ac maen nhw wedi colli mannau diogel hanfodol.

Ar gyfer pobl LHDT awtistig sydd angen dilyn trefn reolaidd, mae Llywodraeth San Steffan wedi darparu canllawiau i'w helpu i barhau â hyn a chael cymorth gan ofalwyr.

Gall mynd ar-lein fod yn achubiaeth. Nid yw'r holl ddigwyddiadau rhithwir yn hygyrch i bobl hŷn neu gymunedau gwledig sydd heb gysylltiadau rhyngrwyd dibynadwy, nac i bobl anabl sy'n gorfod defnyddio technoleg wedi'i haddasu. Gall amseriad digwyddiadau hefyd fod yn anodd i bobl sy'n gofalu am blant.

Mynediad at ofal iechyd

Mae ein gwasanaethau iechyd a'n cymunedau dan bwysau na welwyd mo'i debyg. Does neb yn ddibwys.

Roedd dau ym mhob pump o bobl draws eisoes yn profi diffyg dealltwriaeth o'u hanghenion iechyd penodol wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd cyffredinol. Nawr, maen nhw'n wynebu oedi neu ganslo triniaeth hanfodol i gadarnhau eu rhywedd, ac mae llawer ohonynt wedi bod yn aros am flynyddoedd i gael y driniaeth. 

Ar gyfer rhai pobl LHDT Fyddar ac anabl, mae'n anodd cadw pellter cymdeithasol a darllen gwefusau o ddau fetr i ffwrdd. Ar gyfer rhai pobl LHDT hŷn, mae cael mynediad at ddarpariaeth sylfaenol fel eu meddyginiaeth yn anodd heb eu rhwydweithiau cymorth. Mae sefydliadau fel Opening Doors London yn llenwi'r bwlch yma ar gyfer pobl hŷn LHDT.

Mae COVID-19 yn gwahaniaethu

Mae'r pandemig yn effeithio ar rai cymunedau LHDT i raddau anghyfartal. Mae dadansoddiad gan y Guardian yn dangos bod cleifion Asiaidd a Du i gyfrif am un rhan o dair o'r cleifion mewn ysbytai, er mai dim ond chwarter y boblogaeth ydyn nhw yn yr un ardaloedd. Yn ôl y Fforwm Gofal Cenedlaethol mae dros 4000 o bobl hŷn wedi marw mewn cartrefi gofal, ond dim ond 5 y cant o'r marwolaethau a gafodd eu cyfrif mewn ystadegau gwladol cyn 3 Ebrill. Mae hyn yn dorcalonnus – ond does dim rhaid i bethau fod fel hyn.

Mae Dr Chaand Nagpaul, Cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain, wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i gynnwys 'diweddariadau dyddiol ar ethnigrwydd, amgylchiadau a holl nodweddion gwarchodedig pob claf'.

Os nad ydych chi'n ei fesur, yna dyw'r broblem ddim yn bodoli.

Dr Zubaida Haque, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Runnymede, yn y Guardian

Tan i ni gael y data yma, fyddwn ni ddim wir yn deall yr effaith ar bob cymuned LHDT, na sut gallwn ni ymateb ac achub bywydau.

Pam mae ein gwaith i sicrhau cydraddoldeb i bobl LHDT yn hanfodol

Mae Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol, Michelle Bachelet, wedi galw ar bob gwlad i gymryd camau penodol i amddiffyn pobl LHDT yn ystod y pandemig.

Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan, boed hynny drwy ddangos undod neu gyd-gymorth, codi arian neu ymgyrchu.

Dyna pam rydyn ni'n cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliadau'r Llywodraeth i effeithiau COVID-19 ar ein cymunedau. Rydyn ni hefyd yn galw am gyllid gan y Llywodraeth ar gyfer sefydliadau LHDT sy'n gwneud gwaith hanfodol i leihau'r baich ar wasanaethau rheng flaen sydd dan bwysau.

Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth yma i'ch helpu bob amser. Hefyd, mae ganddon ni adnodd sy'n rhestru nifer o sefydliadau sy'n cynnig cymorth, gyda gwasanaethau penodol ar gyfer grwpiau ymylol.

Beth bynnag yw eich sefyllfa, dydych chi ddim ar eich pen eich hunan.