Pedwar ymgyrchydd ifanc LHDT y dylech chi wybod amdanyn nhw
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
Ellie, Axelle, Li and Eddy smiling facing the camera

Pedwar ymgyrchydd ifanc LHDT y dylech chi wybod amdanyn nhw

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar rai pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT) yn galetach.

Mae'r argyfwng byd-eang wedi gwaethygu sefyllfa llawer o bobl LHDT. O Hwngari i Uganda, Gwlad Pwyl i'r Unol Daleithiau, mae pobl LHDT ledled y byd yn wynebu carchar, aflonyddu a lleihad yn eu hawliau. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia, mae'n hanfodol ein bod ni'n siarad yn erbyn hyn.

Heddiw, mae pedwar ymgyrchydd ifanc yn rhannu sut maen nhw'n Torri'r Tawelwch – a sut gallwch chi wneud hynny, hefyd.

Bu Ellie, Eddy, Li ac Axelle ar ein rhaglenni Ymgyrchwyr Ifanc ar gyfer pobl ifanc LHDT ag anabledd a phobl ifanc LHDT groenliw, a ariannwyd gan Comic Relief. Fe gwrddon nhw â phobl ifanc eraill debyg iddyn nhw a oedd yn creu newid yn eu cymunedau.

Dydyn ni ddim yn cadw'n dawel

Ellie, a young campaigner, smiling‘Dw i'n meddwl llawer am yr ymgyrchwyr LHDT+ anhygoel a ddaeth o fy mlaen i,' meddai Ellie. Mae hi'n awdur, yn gynhyrchydd ac yn ymgyrchydd hawliau atgenhedlu. Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae hi'n 'trio gwneud sŵn a gwrando hefyd' a chanfod ffyrdd newydd o gwrdd ag ymgyrchwyr eraill.

Mae Ellie'n ymwybodol iawn o'r cyd-destun presennol. Mae un ymhob pump person LHDT wedi profi trosedd casineb yn ystod y 12 mis diwethaf, ond nid yw pedwar ymhob pump digwyddiad yn cael eu hadrodd, ac mae pobl ifanc LHDT yn fwy amharod na neb i fynd at yr heddlu.

Mae Ellie'n ymgyrchu fel bod dim angen i bobl LHDT aros eu tro i gael eu clywed.

Dydy tawelwch ddim yn rhywbeth sy'n gallu cael ei dorri gan un person... Er mwyn torri'r tawelwch, mae'n rhaid i ni adleisio lleisiau'r gorffennol, gan wneud ein sŵn ein hunain, hefyd.

Ellie, Rhagenw: hi

Creu gofodau diogel

Li, a young campaigner, smilingHeb ofodau corfforol, mae pobl ifanc yn ceisio creu eu rhith-ofodau eu hunain. Artist, cynhyrchydd creadigol ac ymgyrchydd anneuaidd o Brasil yw Li, sy'n teimlo effeithiau hunanynysu. Mae gofodau ar-lein yn angenrheidiol iddyn nhw, 'nawr yn fwy nag erioed... i gryfhau ein cymuned a pharhau i amlygu ein hangen am hawliau.'

Mae ymchwil Stonewall yn dangos bod 26 y cant o bobl draws wedi wynebu camdriniaeth ar-lein yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae Li'n gwerthfawrogi gwaith sefydliadau gal-dem, Gendered Intelligence a Far & Pride sy'n gwrthsefyll hyn drwy greu gofodau cynhwysol ar gyfer pobl LHDT.

Yng ngwledydd Prydain, mae bod yn berson traws yn golygu bod angen ymdrin ag amgylcheddau gelyniaethus, unigedd a thrais.

Li, Rhagenw: nhw

Yn achos Axelle, ymgyrchydd anneuaidd, queer, Du, nid gofodau diogel yn unig sy'n bwysig, ond cael eich grymuso i ffynnu ynddyn nhw. Mae gofodau diogel yn cynnig 'seibiant o'r unigrwydd sy'n aml yn deillio o wahaniaeth yn cael ei wrthod' er mwyn 'dathlu ein hunain yn ddi-amod'.

Creu newid

Eddy, a young campaigner, smilingDylid dathlu pobl ifanc LHDT.

Gwneuthurwr printiau yw Eddy, ac mae'n gweithio i wasanaeth iechyd Lloegr, NHS Improvement, a Trans Leeds, ac mae ganddo ddiddordeb mewn hygyrchedd. Mae wedi ymgyrchu'n llwyddiannus i gael rhagenwau wedi'u cynnwys ar y bathodyn poblogaidd 'Helo, fy enw i yw...', a gyflwynwyd yn wreiddiol gan y ddiweddar Dr. Kate Granger MBE. Ers mis Mawrth eleni, gall unrhyw un nodi eu rhagenwau ar y bathodynnau yma, ac yn ôl Eddy mae'n creu effaith fawr, er ei fod yn ymddangos fel rhywbeth bach.

 

Mae ofn – ofni peidio cael eich gweld, eich deall neu eich parchu – yn un peth sy'n ein dal ni'n ôl rhag defnyddio gwasanaethau.

Eddy, Rhagenw: fe

Mae Eddy'n disgrifio sut mae'r 'rhwystrau y mae pobl LHDTQ+ yn eu hwynebu, yn enwedig pobl draws, yn golygu ein bod ni'n debygol o brofi anghydraddoldebau wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd. Mae'r sefyllfa bresennol, lle mae llawer mwy ohonon ni'n debygol o fod angen defnyddio gofal iechyd, yn golygu ei bod hi'n bwysicach fyth ein bod ni'n codi llais.' Mae codi llais, fel Eddy, yn creu newid.

Mae ein lleisiau'n bwysig

Axelle, a young campaigner, smilingDydy torri'r tawelwch ddim bob amser 'yn hawdd nac yn ddiogel', meddai Axelle, ond dydy hynny ddim yn golygu nad yw hi'n bosib. Mae hyd yn oed bod allan yn 'chwyldroadol, oherwydd mae gwelededd yn golygu cysylltiad, ac mae cysylltiad yn golygu dilysu.'

Mae Axelle yn egluro bod 'bod yn Ddu, yn queer ac yn draws [yn golygu eich bod] yn aml yn cael eich tawelu gan y rhai sydd ddim hyd yn oed yn fodlon cydnabod eich hunaniaeth.' Maen nhw wedi dysgu eu hunain ei bod yn iawn bod angen amser cyn dod allan, ac mae'n rhoi 'teimlad o ryddhad... [oherwydd] unwaith rydych chi'n barod, bydd rhywun allan yna bob amser i'ch derbyn chi.'

Pan fydda i'n dathlu fy ngwirionedd fy hunan, dw i byth yn ei wneud ar fy mhen fy hunan. Dw i'n torri'r tawelwch drwy godi'r bobl sydd fel fi.

Axelle, Rhagenw: nhw

Yng ngeiriau Axelle, mae eu 'rhyddid yn dod mewn cymuned bob amser'. Mae bod yn weladwy ar TikTok yn un ffordd y mae Li yn ei defnyddio i ddangos i'r byd 'nad yw pawb sy'n anneuaidd yn wyn ac yn androgynaidd', gan godi eraill i siarad ar eu telerau nhw, hefyd.

Mae pobl fel Axelle, Li, Eddy ac Ellie yn gwneud beth bynnag allan nhw i dorri'r tawelwch. Fel dywedodd Ellie: 'Dw i'n ddigon lwcus i gael grŵp o ymgyrchwyr ifanc anhygoel y galla i droi atyn nhw pan fydda i'n mynd ar goll.' Dydy Torri'r Tawelwch ddim yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei wneud ar ein pennau ein hunain; mae'n rhywbeth y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd.

Sut mae Stonewall yn torri'r tawelwch

Er mwyn i'ch lleisiau chi gael eu clywed, rydyn ni'n cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliadau'r Llywodraeth i effeithiau COVID-19 ar bobl LHDT. Rydyn ni hefyd yn galw am gyllid gan y Llywodraeth ar gyfer sefydliadau LHDT sy'n gwneud gwaith hanfodol i leihau'r baich ar wasanaethau rheng flaen sydd dan bwysau.

Rhowch 10 munud o'ch amser i lenwi'r arolwg yma fel bod modd i ni rannu eich profiadau o COVID-19 gyda'r Llywodraeth.

Beth bynnag yw eich sefyllfa, dydych chi ddim ar eich pen eich hunan. Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth yma i helpu gydag unrhyw faterion y mae pobl LHDT neu eu teuluoedd yn eu hwynebu. Fe wnawn ni beth bynnag allwn ni i'ch helpu, neu eich cyfeirio at rywun a all helpu.

Rydyn ni wedi creu canllawiau o sefydliadau LHDT-gynhwysol sy'n gallu helpu yn ystod COVID-19, ynghyd â rhestr o sefydliadau arbenigol all eich cefnogi drwy droseddau casineb a materion eraill.

Rhannwch y blog yma – efallai y gall fod o werth i rywun annisgwyl.

Dilynwch Li ar TikTok, Instagram a Twitter; dilynwch Axelle ar Instagram; dilynwch Ellie ar Twitter ac Instagram, a dilynwch Eddy ar Twitter.