Sut mae Stonewall Cymru yn gweithredu

Nod Stonewall Cymru yw cael cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru.

Anelwn i ddarparu sefydliad dros Gymru gyfan a fydd yn gweithio'n unigol ac mewn partneriaeth gydag asiantaethau, sefydliadau, cyrff statudol ac unigolion o fewn a'r tu allan i'r sector LHD er mwyn:

  • Hybu hawliau dynol a chydraddoldeb i bobl LHD;
  • Herio camwahaniaethu yn erbyn pobl LHD;
  • Diffinio anghenion a buddiannau pobl LHD a mynegi rhain i Gynulliad
  • Cenedlaethol Cymru a chyrff pwrpasol eraill;
  • Cadarnhau a datblygu isadeiledd gyda chymunedau LHD ledled Cymru i'w galluogi i gyfrannu a chael cynyrchiolaeth mewn datblygiadau polisi.

Gwnawn hyn mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, gan gynnwys datblygu polisi, ymgynghoriad a chysylltu gyda grwpiau a sefydliadau perthnasol, darparu gwybodaeth ac addysg (agweddol a sefydliadol), lobïo, datblygu cymunedol, meithrin gallu yn ogystal â chynllunio a chynghori ar arferion da.

Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth LHD sy'n byw yng Nghymru. Rydym wedi ymroi i gynyrchiolaeth ledled Cymru; cydraddoldeb rhyw a iaith, cynyrchiolaeth cymunedau lleiafrifol ac ymylol, cynyrchiolaeth gwleidyddol traws bleidiol, a chynyrchiolaeth undebau llafur.

Ar hyn o bryd mae Stonewall Cymru yn cyflogi 5 o staff, wedi eu lleoli yng Nghaerdydd a Phenmaenmawr.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth