Golwg gryno ar Stonewall Cymru

Stonewall Cymru yw’r Elusen Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) ar gyfer Cymru gyfan.  Ein nod yw sicrhau cydraddoldeb ar gyfer pobl LHD gartref, yn yr ysgol, ac yn y gwaith. 

Sefydlwyd yr elusen yn 2003 gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Stonewall y DU. Mae ein gwaith wedi’i deilwra ar gyfer anghenion pobl LHD ledled Cymru, gan ddefnyddio cyfoeth o ymchwil gan Stonewall ledled Prydain.

Yn y Cartref

Mae Stonewall Cymru yn parhau i gynghori Llywodraeth Cymru drwy waith ymchwil, lobïo ac ymgynghori â’r gymuned LHD. Un o’n llwyddiannau diweddar oedd gweld cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei gynnwys yn Nyletswyddau Penodol Cymru (rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010)

Rydym yn parhau i weithio gyda’r Heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill, megis Gwasanaeth Erlyn y Goron, er mwyn annog pobl i roi gwybod am droseddau casineb homoffobig; gan wneud Cymru’n lle mwy diogel i bobl LHD. 

Yn ddiweddar, rydym wedi ymuno â Chymorth i Ddioddefwyr Cymru i greu prosiect ‘Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri’, sef gwasanaeth cyfrinachol i ddioddefwyr troseddau casineb homoffobig

Yn yr ysgol

Mae 90% o bobl ifanc yn clywed iaith homoffobig yn yr ysgol. Mae Stonewall yn parhau i weithio, drwy ein Hymgyrch Addysg i Bawb, i greu amgylcheddau dysgu cynhwysol i bobl ifanc. 

Yn ddiweddar, rydym wedi creu nifer o ddeunyddiau ar gyfer athrawon, gan gynnwys ‘FIT’, sef ein drama i ysgolion wedi'i haddasu'n ffilm nodwedd, yn ogystal â chanllawiau defnyddiol ar faterion megis herio iaith homoffobig yn y dosbarth. 

Yn y gwaith

Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod ‘pobl yn perfformio’n well yn y gweithle pan maent yn cael bod yn nhw eu hunain’. Mae ein rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn cydnabod hyn, a thrwy’r rhaglen hon, rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i greu amgylcheddau gwaith sy’n galluogi pobl LHD i fod yn nhw eu hunain.

Mae ein rhaglen yn gweithio gydag oddeutu 600 o gyflogwyr ym mhob cwr o Brydain Fawr. 

Yng Nghymru, mae ein haelodau’n cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Caerdydd a Chwaraeon Cymru
 
Gallwch chi ein helpu i wneud gwahaniaeth drwy wirfoddolicefnogi, neu roi rhodd.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth