E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Cyfleoedd Swyddi gyda Stonewall Cymru

Newyddiadurwr Cynorthwyol (Swydd wirfoddol gyda rhai treuliau)

Dyddiad: Medi 15

Mae Stonewall Cymru a Gŵyl Gwobr Iris yn recriwtio 8 unigolyn Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) o Gymru a hoffai gael y cyfle i ennill profiad ym maes cynhyrchu cynnwys delweddau symudol o safbwynt golygyddol.

Bydd yr ymgeiswyr yn cael cyfle i ennill profiad gwerthfawr gyda gŵyl ffilmiau ryngwladol, gan greu cysylltiadau ardderchog a meithrin sgiliau rhagorol a fyddai’n apelio at ddarpar gyflogwyr. Bydd y cwrs yn cychwyn ym mis Medi, ac yn rhoi darlun ymarferol  o’r broses gyfweld, gyda phwyslais ar ymchwil a pharatoi. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda The Festivals Company, sy’n cynhyrchu Gŵyl Gwobr Iris, i ddatblygu cynnwys ar gyfer IrisTV, Sioe Wobrwyo Gwobr Iris, a digwyddiadau eraill a gynhelir yn ystod gŵyl 2011. Mae strwythur y cwrs yn golygu y bydd dau grŵp o 4, un yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, a’r llall drwy gyfrwng y Saesneg.


Byddai’r cwrs hwn yn addas i ymgeiswyr sydd wedi cael rhywfaint o brofiad o waith cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu.


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Berwyn Rowlands berwyn@irisprize.org


Cliciwch yma i lwytho rhagor o wybodaeth a manyleb y person


Cliciwch yma i lwytho ffurlflen gais Iris TV a Stonewall Cymru

Cliciwch yma am gyfleoedd swyddi yn ein swyddfa yn Llundain.
Cliciwch yma am gyfleoedd swyddi yn ein swyddfa yn yr Alban.

Cliciwch yma i lwytho ffurflen gais gwirfoddolwyr


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)