Mae ymchwil Stonewall, Yr Adroddiad Ysgol 2007, wedi darganfod fod bron i ddwy ran o dair o bobl ifanc lesbiaidd, hoywa deurywiol yn profi bwlio homoffobig yn ysgolion Prydain a bod 98 y cant yn clywed ymadroddion fel ‘Mae hynna mor hoyw’ neu ‘Ti mor hoyw’. Yn ymchwil Stonewall, Yr Adroddiad Athrawon 2009, mae staff ysgolion yn dweud mai bwlio homoffobig yw’r bwlio mwyaf cyffredin yn dilyn bwlio oherwydd pwysau. Mae’n bwysig bod holl staff yr ysgol yn gwybod y gall unrhyw un sy’n cael ei ystyried yn wahanol gael ei effeithio a bod ganddynt ddyletswydd i rwystro a mynd i’r afael â bwlio homoffobig. Dylai staff yr ysgol fod yn ymwybodol hefyd o’r canlyniadau a’r hyn y gallant ei wneud. Mae canllaw Stonewall ar Herio iaith homoffobig a chyngor Stonewall a gomisiynwyd gan yr Adran Addysg yn 2007 yn adnoddau defnyddiol. Darllenwch fwy
Materion lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn y cwricwlwm
Y dull mwyaf effeithiol o rwystro bwlio homoffobig a sicrhau bod pobl ifanc lesbiaidd, hoywa deurywiol yn teimlo’n gynhwysol ac yn cael y wybodaeth sydd ei angen arnynt yw gwneud y cwricwlwm yn gynhwysol o safbwynt materion lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Canfu’r cyhoeddiad Adroddiad yr Athrawon 2009 bod naw o bob deg ysgol uwchradd yn dweud y dylid mynd i’r afael â materion lesbiaidd a hoyw yn yr ysgol. Ond, nid yw llawer o athrawon yn teimlo fod ganddynt y dulliau gweithredu na’r hyder i wneud hynny a dyna pam mae Stonewall wedi cynhyrchu adnoddau yn benodol ar gyfer staff ysgolion uwchradd.
Mae gan bobl ifanc lesbiaidd, hoywa deurywiol yr un anghenion â phob person ifanc arall - maent eisiau teimlo’n ddiogel ac yn gynhwysol. Dylai pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc fod yn awyddus i sicrhau bod pobl ifanc lesbiaidd, hoywa deurywiol yn gallu gwireddu eu potensial ond mae rhai’n ansicr ynglŷn â’r ffordd i wneud hynny.
Dylai’r ysgol gyfan chwarae rhan yn y dasg o greu hinsawdd lle gall pawb deimlo y gallant fod yn hwy eu hunain. Mae hyn yn cynnwys yr uwch dîm rheoli, aelodau o staff nad ydynt yn dysgu a llywodraethwyr. Yn 2007, comisiynwyd Stonewall gan Yr Adran Addysg i ysgrifennu canllaw ar sut i rwystro a mynd i’r afael â bwlio homoffobig ac mae hwn yn cynnwys adrannau penodol ar gyfer athrawon, llywodraethwyr a phenaethiaid.
Hefyd, ysgrifennodd Stonewall ganllaw ar Gefnogi pobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy’n cynnwys materion fel dod allan, gan roi gwybodaeth a gweithio gyda rhieni a gofalwyr pobl ifanc lesbiaidd, hoywa deurywiol. Hefyd mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am weithio gyda rhieni a gofalwyr, lleisiau pobl ifanc, enghreifftiau o arfer da a chyngor ar sut i ymateb pan mae person ifanc yn dod allan. Darllenwch fwy.
Sylwadau am y dudalen