Mae bwlio homoffobaidd yn dal i fod yn eang yn ysgolion Prydain. Mae mwy na hanner y disgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol (55 y cant) wedi profi bwlio uniongyrchol.
Mae defnydd o iaith homoffobaidd yn endemig. Mae bron â bod yr holl bobl ifanc hoyw (99 y cant) yn clywed yr ymadroddion ‘mae hynna mor hoyw’ neu ‘ti mor gay’ yn yr ysgol ac mae naw deg chwech y cant o ddisgyblion hoyw yn clywed iaith homoffobaidd fel ‘pwff’ neu ‘lezza’.
Mae tri ymhob pump o ddisgyblion hoyw sy’n profi bwlio homoffobaidd yn dweud nad yw athrawon sy’n dyst i’r bwlio byth yn ymyrryd.
Dim ond hanner y disgyblion hoyw sy’n dweud bod eu hysgolion yn datgan bod bwlio homoffobaidd yn annerbyniol, ac mae’r ffigur hyd yn oed yn llai mewn ysgolion ffydd (37 y cant).
Mae bwlio homoffobaidd yn cael effaith hynod ddinistriol ar brofiad ysgol pobl ifanc. Mae un ymhob tri (32 y cant) o ddisgyblion hoyw sy’n profi bwlio yn newid eu cynlluniau addysg yn y dyfodol o’i herwydd, ac mae tri ymhob pump yn dweud ei fod yn effeithio’n uniongyrchol ar eu gwaith ysgol.
Mae pobl hoyw sy’n cael eu bwlio mewn risg uwch o ladd eu hunain, hunan-niweidio a bod ag iselder. Mae dau ymhob pump (41 y cant) wedi ceisio lladd eu hunain neu wedi ystyried gwneud hynny o ganlyniad uniongyrchol i’r bwlio, ac mae’r un nifer yn dweud eu bod yn hunan-niweidio yn uniongyrchol oherwydd bwlio.
Ers cynnal yr astudiaeth hon am y tro cyntaf yn 2007, mae Stonewall wedi cynhyrchu ystod o adnoddau o ansawdd uchel ac addas i oedran a fydd yn helpu athrawon i fynd i’r afael â bwlio homoffobaidd. Mae Stonewall hefyd wedi bod yn gweithio’n uniongyrchol gydag ysgolion, awdurdodau lleol ac asiantaethau lleol, ymhlith eraill, i ddatblygu strategaethau ar gyfer mynd i’r afael â bwlio. Mae astudiaeth 2012 yn dangos canlyniadau calonogol y gwaith hwn:
Mae’r achosion o fwlio pobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn homoffobaidd wedi gostwng i 55 y cant, i lawr o 65 y cant
Mae dwywaith cymaint o ddisgyblion hoyw yn dweud bod eu hysgolion yn datgan bod bwlio homoffobaidd yn annerbyniol – 50 y cant, cynnydd ar 25 y cant yn 2007
Mae nifer y disgyblion hoyw sy’n dal i deimlo nad ydynt yn gallu siarad allan pan fyddant yn cael eu bwlio, er ei fod yn rhy uchel, wedi gostwng o 58 y cant i 37 y cant
Sylwadau am y dudalen