Nod y cwricwlwm yw helpu plant i fod yn ddysgwyr llwyddiannus, yn unigolion hyderus ac yn ddinasyddion cyfrifol. Mae siarad am deuluoedd gwahanol yn bwysig iawn er mwyn cyflawni’r amcanion hyn. Bydd plant yn dysgu’n well ac yn gallu bod yn fwy ymgysylltiol os ydynt yn gweld eu profiadau a’u teulu’n cael eu hadlewyrchu yn y dosbarth a byddant yn tyfu i fod yn fwy hyderus os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys. Er mwyn paratoi plant ar gyfer y gymdeithas amrywiol y maent yn byw ynddi ac i rwystro ymddygiad gwael a bwlio, mae’n bwysig siarad am wahaniaeth yn gyffredinol a theuluoedd gwahanol yn arbennig.
Yn 2001, cyhoeddodd Stonewall adroddiad ar Deuluoedd Gwahanol yn seiliedig ar gyfweliadau gyda phlant â rhieni hoyw a lesbiaidd. Yn yr adroddiad hwn mae plant yn egluro pam eu bod yn meddwl ei bod yn bwysig siarad am y materion hyn yn y dosbarth. Yn Adroddiad yr Athrawon, a oedd yn seiliedig ar arolwg gyda mwy na 2,000 aelod o staff ysgolion cynradd ac uwchradd, mae athrawon yn egluro pam eu bod yn meddwl fod siarad am y materion hyn yn bwysig.
Nid oes rhaid iddi fod yn anodd siarad am deuluoedd gwahanol, gan gynnwys y rhai gyda rhieni hoyw neu lesbiaidd. Mae Canllaw Addysgol Cynnwys Teuluoedd Gwahanol Stonewall yn rhoi cyngor ar sut i fynd ati i ymdrin â materion hoyw a lesbiaidd yn y dosbarth a sut i sicrhau bod eich dysgu’n adlewyrchu realaeth bywyd yn yr 21ain ganrif. Yn wir, mae siarad am berthnasoedd gwahanol yn rhan o’r cwricwlwm. Nid oes angen dysgu unrhyw beth arbennig neu ddysgu’n wahanol - yn syml, mae’n golygu bod yn ymwybodol bod gan rai plant rieni lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, a derbyn bod partneriaethau sifil yn realaeth ac ateb cwestiynau a herio tybiaethau mewn iaith y mae plant yn ei deall. Gellir trafod llyfrau am wahanol berthnasoedd a theuluoedd fel rhan o amser cylch neu fel rhan o lythrennedd.
Mae amryw o athrawon ysgolion cynradd eisoes yn gosod y sylfeini ar gyfer cymdeithas heb wahaniaethu a lle gall pawb fod yn hwy eu hunain. Mae Adroddiad yr Athrawon yn dangos rhai enghreifftiau o arfer da ar sut i siarad am deuluoedd gwahanol a materion hoyw a lesbiaidd yn y dosbarth.
Mae’r cwricwlwm cynradd yn cynnwys pynciau fel teuluoedd, perthnasoedd, gwahaniaeth a bwlio. Yn Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu, Addysg Bersonol, Gymdeithasol, Iechyd ac Economaidd a llythrennedd a hefyd yn ystod amser cylch ac mewn pynciau eraill, gall athrawon esbonio’n glir bod pawb yn wahanol a siarad am y ffaith bod partneriaeth sifil yn briodas rhwng dau ddyn neu ddwy ferch.
Mae’n bwysig gweithio gyda rhieni a gofalwyr i hybu ymddygiad da a sefydlu amgylchedd dysgu cynhwysol. Mae llawer o rieni’n cefnogi’r math hwn o waith ac yn deall sut mae’n berthnasol yn y dasg o greu cymdeithas heb wahaniaethu. Mae gan bob ysgol ei dull ei hun o ymgysylltu â rhieni a chyfathrebu â hwy, a thra bod rhai ysgolion yn dewis cynnwys rhieni mewn sawl agwedd o’u gwaith, gall eraill ddefnyddio dull arall. Mae’n bwysig bod yr uwch dîm rheoli yn rhan o’r gwaith mae’r ysgol yn barod i’w wneud i gael deialog gyda rhieni os oes unrhyw bryderon, ac yn ei gefnogi. Hefyd, gallwch eu cyfeirio at adran rhieni a gofalwyr ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.
Dylai ysgolion fod yn ymwybodol fod gan rai o’u disgyblion rieni lesbiaidd, hoywa deurywiol a bod y rhieni hyn yn haeddu teimlo bod croeso iddynt. Dylid rhoi sicrwydd i’r rhieni bod croeso i’w plant siarad am eu teulu yn yr ysgol, y bydd disgyblion yn cael eu dysgu am berthnasoedd lesbiaidd a hoyw ac y byddant yn mynd i’r afael ag iaith homoffobig a bwlio homoffobig os bydd yn codi. Mae deddfwriaeth yn bodoli sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol mewn ysgolion.
Sylwadau am y dudalen