Mae dau o bob pum athro ysgol gynradd yn dweud wrthym eu bod yn gweld bwlio homoffobig yn eu hysgolion. Mae plant yn defnyddio iaith homoffobig - heb ddeall ei ystyr bob amser - i fod yn gas wrth blant eraill. Mae plant yn dod o amryw o wahanol gefndiroedd ac efallai fod gan blant frodyr a chwiorydd, ewythrod, rhieni bedydd neu rieni hoyw. Mae dathlu a chydnabod teuluoedd gwahanol yn hanfodol i alluogi plant i ddysgu sut i werthfawrogi’r rhai sy’n wahanol neu sy’n dod o gefndiroedd a theuluoedd gwahanol.
Mae adroddiad Teuluoedd Gwahanol Stonewall wedi darganfod nad yw plant gyda rhieni lesbiaidd neu hoyw yn ystyried eu teuluoedd fel rhywbeth allan o’r cyffredin. Dim ond pan maent yn sylweddoli bod plant eraill yn meddwl bod eu teuluoedd yn anghyffredin neu’n wahanol ac yn defnyddio’r gair ‘hoyw’ i olygu rhywbeth drwg neu israddol y maent yn mynd yn hunanymwybodol ynglŷn â’r ffaith fod ganddyn nhw ddau dad neu fod eu mam yn lesbiad. Hefyd, maent yn dechrau sylweddoli nad yw eu teulu’n cael ei adlewyrchu yn y cwricwlwm. Nid yw’n anodd bod yn anodd bod yn gynhwysol yn eich dysgu a pharatoi plant ar gyfer bywyd mewn cymdeithas amrywiol. Mae canllaw Stonewall, Cynnwys Teuluoedd Gwahanol, yn rhoi gwybodaeth am sut i gyfeirio at faterion hoyw a lesbiaidd yn y dosbarth. Darllenwch fwy
Gyda llawer o athrawon ysgolion cynradd ddim yn siarad yn gynhwysol am deuluoedd gwahanol a phobl lesbiaidd, hoywa deurywiol, nid yw’n rhyfedd fod bwlio homoffobig ac iaith homoffobig yn gyffredin mewn llawer o ysgolion cynradd. Mae ymchwil Stonewall Yr Adroddiad Ysgol 2009 yn dangos bod mwy na dau o bob pum athro ysgol gynradd (44 y cant) yn dweud fod plant yn dioddef bwlio homoffobig yn eu hysgolion. Fodd bynnag, nid yw naw allan o ddeg athro ysgol gynradd wedi derbyn unrhyw hyfforddiant penodol ar sut i rwystro ac i ymateb i fwlio homoffobig. Darllenwch fwy
Mae ymchwil Stonewall yn dangos yn glir yr angen i’r ymgyrch Addysg i Bawb gynnwys ysgolion cynradd. Wedi gweithio’n llwyddiannus gydag ysgolion uwchradd ers 2005, rydym yn awr yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac yn eu cefnogi i siarad am a dathlu teuluoedd gwahanol a rhwystro bwlio homoffobig. Os hoffech archebu mwy o adnoddau cliciwch yma
Mae gan ysgolion ddyletswydd i sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â bwlio homoffobig ac yn ôl Y Ddeddf Cydraddoldeb Sengl a Dyletswyddau’r Sector Gyhoeddus mae’n rhaid iddynt ddatblygu cydraddoldeb a meithrin cysylltiadau da hefyd. Ar ben hynny, mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd bod ganddynt rieni hoyw neu lesbiaidd. Mae athrawon a staff eraill ysgolion yn cael eu gwarchod gan ddeddfwriaeth rhag gwahaniaethu ac aflonyddu arnynt ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Darllenwch fwy
Sylwadau am y dudalen