Lleisiau athrawon 

Mae dwy ran o dair o athrawon sydd wedi mynd i’r afael â materion lesbiaidd a hoyw yn y dosbarth wedi gwneud hynny am fod plant wedi codi’r mater, ac eraill am eu bod yn meddwl ei bod yn bwysig gwneud hynny.  Mae nawdeg pump y cant o athrawon sydd wedi mynd i’r afael â’r materion hyn yn dweud y byddent yn gwneud hynny eto.

Credaf ei bod yn bwysig i blant gael cyfle i drafod perthnasoedd o’r un rhyw ac ati ar y lefel gynradd.  Rydym yn ei drafod yn fyr wrth ddysgu addysg rhyw, ond rwy’n amau a yw llawer o athrawon yn ei drin yn fanwl.  Credaf hefyd y dylid tynnu sylw ar unrhyw adeg pan fo perthnasoedd yn cael eu trafod fel y gall plant ystyried perthnasoedd o’r un rhyw yn union fel unrhyw fath arall o berthynas, yn hytrach na rhywbeth ‘gwahanol’.
Sarah, athrawes, ysgol gynradd (Llundain)

Mae disgyblion gyda rhieni neu ofalwyr mewn perthnasoedd o’r un rhyw yn aml yn teimlo’n annifyr yn siarad am hyn gan eu bod ofn y byddant yn cael eu bwlio neu y bydd sylwadau negyddol yn cael eu gwneud am eu teuluoedd.  Petai’r mater hwn yn cael ei drafod yn fwy agored yn yr ysgol efallai y byddai’n lleihau materion fel hyn, oherwydd y byddai disgyblion eraill, gobeithio, yn peidio ei weld fel rhywbeth rhyfedd neu ddrwg.
 Victoria, athrawes, ysgol gynradd (Gorllewin Canolbarth Lloegr)

Fy nheimlad i yw po ieuengaf yr eir i’r afael ag ef (o bump oed ymlaen) y mwyaf parod y bydd plant i  gredu bod ffyrdd eraill o fyw yn dderbyniol.  Nid oes angen i chi ei wthio i lawr eu corn gyddfau, dim ond eu dysgu bod gan bobl eraill ffyrdd eraill o fyw eu bywydau a’i fod mor normal â’r ffordd o fyw  y maent yn gyfarwydd ag ef.
Alice, athrawes, ysgol gynradd (Llundain)

Mae angen dangos iddynt a’u dysgu am hyn, yn union fel ag y gwnawn ni am wledydd, crefyddau ac ati.  Ni fydd ei guddio yn gwneud iddo ddiflannu.
Niamh, athrawes, ysgol gynradd (De Orllewin Lloegr)

Darllenwch fwy yn  Adroddiad yr Athrawon 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

Education
e-bulletin signup


Banc gwybodaeth