Bwlio homoffobig mewn ysgolion cynradd

Mae bwlio homoffobig yn digwydd mewn ysgolion cynradd ac, os nad oes neb yn mynd i’r afael â hyn mewn ffordd effeithiol, gall wneud niwed mawr i’r plant i gyd.   Ond does dim rhaid i’w atal a’i herio fod yn anodd.

 School Champions logoDo you know a school which needs support with tackling homophobic bullying and celebrating difference?<}0{>Ydych chi’n gwybod am ysgol sydd angen cefnogaeth i fynd i’r afael â bwlio homoffobig a dathlu gwahaniaethau? Rhagor o wybodaeth am raglen Hyrwyddwyr Ysgol Stonewall.

Pwy sy’n profi bwlio homoffobig? 

Datgelodd gwaith ymchwil yn 2009 gan Stonewall, The Teachers' Report, bod tri allan o bob pump o athrawon mewn ysgolion cynradd sy'n ymwybodol o fwlio homoffobig yn eu hysgolion yn dweud bod y bechgyn sy'n 'ymddwyn neu’n actio fel merched' yn cael eu bwlio. Mae dau allan o bob pump yn dweud bod y bechgyn sydd ddim yn hoff o chwaraeon yn cael eu bwlio. Mae un o bob pump yn dweud bod y bechgyn sy’n academaidd yn profi bwlio homoffobig. Mae un o bob chwech yn dweud bod y merched sy’n ‘ymddwyn neu’n actio fel bechgyn’ yn profi bwlio homoffobig ac mae un o bob deg yn dweud bod y merched sy’n hoff o chwaraeon yn cael eu bwlio.

Mae hyn yn gwneud i blant deimlo nad ydyn nhw’n gallu bod yn nhw eu hunain a gall arwain at lai o ddyheadau a chyrhaeddiad is oherwydd bod arnynt ofn cael eu bwlio. Os nad yw’r bwlio’n cael ei herio, bydd y plant yn tyfu i fyny yn meddwl bod yr ymddygiad gwael hwn yn cael ei oddef ac felly ni fyddant yn barod am fywyd yn ein cymdeithas amrywiol ni.

Sut beth yw bwlio homoffobig?

Mae bwlio homoffobig yn amlwg mewn ysgolion cynradd. Mae un o bob pump o athrawon mewn ysgolion cynradd yn dweud bod plant yn dioddef o gam-drin geiriol homoffobig yn eu hysgolion.

Mae tri chwarter yr athrawon mewn ysgolion cynradd yn clywed plant yn defnyddio ymadroddion fel ‘mae hyn’na mor hoyw’ neu ‘ti mor hoyw’ yn yr ysgol. Mae dau o bob pump athro cynradd yn clywed plant yn gwneud sylwadau homoffobig fel ‘pwff’, ‘dyke’, ‘queer’ a ‘ffagot’.

Mae tri allan o bob deg athro mewn ysgolion cynradd wedi clywed iaith homoffobig neu sylwadau negyddol am bobl hoyw gan staff eraill yn yr ysgol.

Darllenwch fwy am fwlio homoffobig ymhlith disgyblion yn The Teachers' Report ac yn yr adroddiad Different Families gennym ni.

Mynd i’r afael â bwlio a iaith homoffobig 

Mae nifer o’r athrawon cynradd sydd heb herio iaith homoffobig bob amser yn dweud mai’r rheswm am hyn yw am nad oeddent yn credu bod y disgyblion yn bod yn homoffobig neu mai ‘dim ond cellwair diniwed’ oedd yr iaith homoffobig roeddent wedi’i chlywed.

Nid yw mwy na naw allan o bob deg athro a’r staff ategol mewn ysgolion uwchradd a chynradd (94%) wedi derbyn unrhyw hyfforddiant penodol ar sut i fynd i’r afael â bwlio homoffobig. Er hynny, nid yw’r athrawon yn goddef iaith hiliol ac maen nhw’n gwybod sut i herio plant sy’n defnyddio termau ymosodol. Nid oes rhaid i fynd i’r afael â iaith a bwlio homoffobig fod yn fwy anodd ac mae The Teachers' Report yn cynnig rhai enghreifftiau o arfer da o athrawon mewn ysgolion cynradd yn mynd i’r afael â bwlio homoffobig mewn ffordd effeithiol. Hefyd, mae nifer o athrawon yn fwy rhagweithiol fyth ac yn atal hyn drwy siarad am wahanol deuluoedd yn y dosbarth gan ddefnyddio ein hadnoddau ni a’r Different Families Guide.

I gael gwybodaeth am hyfforddiant ac adnoddau i helpu i ddelio â bwlio homoffobig, edrychwch yn yr adran adnoddau yn ein gwefan ni.

Mae rhaglen Hyrwyddwyr Ysgol Stonewall yn darparu cefnogaeth a chyfarwyddyd penodol i ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer helio bwlio a iaith homoffobig a dathlu gwahaniaethau.

Hefyd, mae Stonewall wedi cyhoeddi Canllaw Addysgol ar Challenging homophobic language ac mae wedi ysgrifennu cyfarwyddyd ynghylch atal a mynd i'r afael â bwlio homoffobig..


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

Education
e-bulletin signup


Banc gwybodaeth