Cymryd rhan yn yr Wythnos Gwrth-Fwlio – yn y gwaith

 Mae llawer o ffyrdd y gallwch ymuno, ac mae rhai syniadau isod. Ond mae croeso i chi feddwl am syniadau eich hunain – bydden ni’n falch iawn o glywed amdanyn nhw a’ch cefnogi chi unrhyw ffordd y gallwn ni. Yma i lawrlwytho'r Pecyn Codi Arian i Gefnogwr  

Gwnewch eich gwaith cartref!  

Cymerwch ran yn ein hymgyrch sy’n galw ar ysgolion i fynd i’r afael â bwlio homoffobaidd. Cliciwch yma i ysgrifennu at eich hen ysgol neu’ch ysgol leol, a gallech ennill un o’r gwobrau anhygoel yma!

·         Cwrdd â Syr Ian McKellen! Ymunwch â Syr Ian ar Ymweliad Ysgol fel Model Rôl Stonewall Cymru, a gallwch gwrdd â’r seren dros goffi wedyn. Eich cyfle chi i weld ein hymgyrchoedd gwrth-fwlio ar waith.

·         Tocynnau i Dancing on Ice ITV ym mis Ionawr. Gyda diolch i bobl hyfryd ITV!

·         Hamper moethus o Fwyd Cyflawn – gwerth £170! Diolch yn fawr i Farchnad Bwyd Cyflawn Piccadilly Circus am gyfrannu’r wobr hon.

Cofiwch annog eich ffrindiau a’ch teulu i Wneud eu Gwaith Cartref – gyda’n gilydd gallwn wneud ysgolion yn lle gwell i bobl ifanc.

Trefnwch fore coffi! 

Trefnwch fore coffi i godi arian i Stonewall Cymru a gofynnwch i ffrindiau / cydweithwyr / teulu gyfrannu £1 am baned. Gallech ddefnyddio mygiau Stonewall sy’n dweud ‘Mae rhai pobl yn hoyw. Deliwch â’r peth!’ (£8.95 gan gynnwys postio). A chofiwch anfon lluniau aton ni!

Byddwch yn Gyfaill i Stonewall Cymru

Am gyn lleied â £5 y mis gallwch ein helpu ni i fynd i’r afael â bwlio homoffobaidd gydol y flwyddyn. Ymunwch fel Cyfaill ym mis Tachwedd ac fe wnawn ni anfon mwg Stonewall i chi yn rhad ac am ddim.

Rhowch wybod i ni os gallwn eich helpu chi i baratoi ar gyfer unrhyw weithgareddau gwrth-fwlio! Cysylltwch â Luke drwy anfon e-bost i luke.young@stonewallcymru.org.uk neu drwy ffonio 02920 237 744, a gallwn roi tuniau casglu, posteri, sticeri a balwnau i chi. 

Cliciwch yma i lawrlwytho ein templed 

Education
e-bulletin signup


Banc gwybodaeth