
Mae FIT yn sôn am grŵp o bobl ifanc sy’n ymdrin â phopeth o ddod allan i ffitio i mewn – mewn amgylchedd lle gall gwisgo’r esgidiau anghywir neu hoffi dawnsio gael ei alw yn ‘hoyw’. Beth am ddangos sgriniad yn eich ysgol neu’ch coleg er mwyn annog myfyrwyr i siarad am fwlio homoffobaidd? Archebwch eich copi o FIT yma.
Archebwch adnoddau o fri Stonewall – gan gynnwys y posteri eiconig ‘Mae rhai pobl yn hoyw. Deliwch â’r peth!’. Dyluniwyd y rhain i helpu ysgolion a cholegau i godi ymwybyddiaeth o fwlio homoffobaidd, ac mae ymchwil Stonewall yn dangos bod defnyddio’r adnoddau hyn yn gwneud i fyfyrwyr deimlo eu bod yn fwy rhydd i fod yn nhw eu hunain. Cliciwch yma i archebu eich adnoddau.
Defnyddiwch bosteri a chardiau post poblogaidd Stonewall ar gyfer ysgolion cynradd. Gallwch ddefnyddio taflenni sticeri i helpu plant i siarad am wahaniaeth a gwahanol fathau o deuluoedd. Gofynnwch hefyd i blant dynnu lluniau o’u teuluoedd eu hunain! Cliciwch yma i archebu eich rhai chi heddiw.
Mae cymaint o bethau y gallwch eu gwneud yn ystod yr Wythnos Gwrth-Fwlio yn eich ysgol neu’ch coleg eich hunan. Darllenwch ganllaw'r Ymgyrch Addysg i Bawb i gael enghreifftiau o ymgyrchoedd llwyddiannus wedi’u harwain gan bobl ifanc. A dyma fwy o syniadau:
Mae rhaglen Hyrwyddwyr Ysgolion Stonewall Cymru yn cefnogi ysgolion o ran atal a mynd i’r afael â bwlio homoffobaidd, yn ogystal â dathlu gwahaniaeth. Os nad yw eich ysgol yn rhan o’r rhaglen eto, siaradwch gydag athro heddiw!
Dangoswch eich lliwiau – gofynnwch i’ch ffrindiau ysgol gyfrannu £1 i Stonewall ar gyfer Diwrnod Dim Gwisg Ysgol neu Ddiwrnod Gwisg Ffansi. Beth am geisio diwrnod ar thema Gwrth-fwlio, fel Arwyr? Neu ymunwch ag eraill ledled gwledydd Prydain ar 19 Tachwedd, a gwisgwch rywbeth glas ar gyfer Dydd Llun Glas.
Gwerthiant Pobi Mawr Prydain – trefnwch werthiant cacennau i godi arian ar gyfer Stonewall. Ceisiwch bobi cacennau a bisgedi siâp seren Stonewall neu heriwch eich gilydd i greu danteithion ar thema gwrth-fwlio. Dyma rai syniadau i roi cychwyn ar bethau:
Bisgedi Seren
Sut i wneud cacen siâp seren heb dun siâp seren
Dawnsio i ddileu gwahaniaethu – trefnwch ddisgo Talu-i-Chwarae amser cinio a chodi £1 ar gyd-fyfyrwyr i chwarae eu hoff ganeuon. Mae cefnogwyr Stonewall wedi dweud wrthym mai eu hoff ganeuon yw: Beautiful - Christina Aguilera, Firework - Katy Perry, Born this way - Lady Gaga a Standing in the way of control, Gossip.
Rhowch wybod i ni os gallwn eich helpu chi i baratoi ar gyfer unrhyw weithgareddau gwrth-fwlio! Cysylltwch â Reiko drwy anfon e-bost i Luke.Young@stonewallcymru.org.uk neu drwy ffonio 02920 237 744, a gallwn roi tuniau casglu, posteri, sticeri a balwnau i chi.
Gallwch lawrlwytho Pecyn Codi Arian i Ysgolion yr Wythnos Gwrth-Fwlio
Gallwch lawrlwytho Pecyn Codi Arian Hyrwyddwyr Addysg
Yma i lawrlwytho'r Pecyn Codi Arian i Gefnogwr i gael rhagor o wybodaeth ynghylch pam fod angen eich cefnogaeth arnon ni yn ystod yr Wythnos Gwrth-Fwlio a beth y bydd eich cyfraniadau yn ein helpu ni i’w gyflawni.
Beth bynnag fyddwch chi’n dewis ei wneud, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael holl gymuned yr ysgol i ymuno – gyda’n gilydd gallwn sefyll yn erbyn bwlio homoffobaidd!
Sylwadau am y dudalen