Mae llawer o ffyrdd y gallwch ymuno, ac mae rhai syniadau isod. Ond mae croeso i chi feddwl am syniadau eich hunain – bydden ni’n falch iawn o glywed amdanyn nhw a’ch cefnogi chi unrhyw ffordd y gallwn ni. Yma i lawrlwytho'r Pecyn Codi Arian i Gefnogwr
Cymerwch ran yn ein hymgyrch sy’n galw ar ysgolion i fynd i’r afael â bwlio homoffobaidd. Cliciwch yma i ysgrifennu at eich hen ysgol neu’ch ysgol leol, a gallech ennill un o’r gwobrau anhygoel yma!
· Cwrdd â Syr Ian McKellen! Ymunwch â Syr Ian ar Ymweliad Ysgol fel Model Rôl Stonewall, a gallwch gwrdd â’r seren dros goffi wedyn. Eich cyfle chi i weld ein hymgyrchoedd gwrth-fwlio ar waith.
· Tocynnau i Dancing on Ice ITV ym mis Ionawr. Gyda diolch i bobl hyfryd ITV!
· Hamper moethus o Fwyd Cyflawn – gwerth £170! Diolch yn fawr i Farchnad Bwyd Cyflawn Piccadilly Circus am gyfrannu’r wobr hon.
Cofiwch annog eich ffrindiau a’ch teulu i Wneud eu Gwaith Cartref – gyda’n gilydd gallwn wneud ysgolion yn lle gwell i bobl ifanc.
Trefnwch fore coffi i godi arian i Stonewall Cymru a gofynnwch i ffrindiau / cydweithwyr / teulu gyfrannu £1 am baned. Gallech ddefnyddio mygiau Stonewall sy’n dweud ‘Mae rhai pobl yn hoyw. Deliwch â’r peth!’ (£8.95 gan gynnwys postio). A chofiwch anfon lluniau aton ni!
Am gyn lleied â £5 y mis gallwch ein helpu ni i fynd i’r afael â bwlio homoffobaidd gydol y flwyddyn. Ymunwch fel Cyfaill ym mis Tachwedd ac fe wnawn ni anfon mwg Stonewall i chi yn rhad ac am ddim.
Rhowch wybod i ni os gallwn eich helpu chi i baratoi ar gyfer unrhyw weithgareddau gwrth-fwlio! Cysylltwch â Luke drwy anfon e-bost i Luke.Young@stonewallcymru.org.uk neu drwy ffonio 02920 237767, a gallwn roi tuniau casglu, posteri, sticeri a balwnau i chi.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch pam mae angen eich cefnogaeth yn ystod Wythnos Gwrth-Fwlio, a beth y bydd eich cyfraniadau yn ein helpu ni i’w wneud.
Sylwadau am y dudalen