· Mae mwy na hanner y bobl ifanc hoyw yn dal i ddioddef bwlio homoffobaidd mewn ysgolion.
· Mae 96 y cant o ddisgyblion hoyw yn clywed sylwadau homoffobaidd fel ‘pwff’ neu ‘lezza’ yn cael eu defnyddio mewn ysgolion ac mae bron â bod pawb (99%) ohonynt yn clywed ymadroddion fel ‘mae hynny mor hoyw’ neu ‘rwyt ti mor hoyw’ yn yr ysgol.
· Mae athrawon am fynd i’r afael â’r broblem hon, ond nid ydynt yn hyderus i wneud hynny. Mae naw ymhob deg o aelodau staff mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn dweud nad ydynt erioed wedi cael hyfforddiant penodol ynghylch sut i atal bwlio homoffobaidd ac ymateb iddo.
· O ganlyniad, mae tri ymhob pump o ddisgyblion hoyw sy’n profi bwlio homoffobaidd yn dweud nad yw athrawon sy’n dyst i fwlio byth yn ymyrryd.
Mae’r bwlio hwn yn cael effeithiau difrifol ar y bobl ifanc sy’n ei brofi:
· Mae dros 30 y cant o ddisgyblion hoyw sy’n profi bwlio homoffobaidd yn newid eu cynlluniau ar gyfer addysg yn y dyfodol o’i herwydd.
· Mae un ymhob tri (32 y cant) o ddisgyblion hoyw sy’n profi bwlio yn newid eu cynlluniau ar gyfer addysg yn y dyfodol ac mae tri ymhob pump yn dweud ei fod yn effeithio’n uniongyrchol ar eu gwaith ysgol.
· Mae pobl hoyw sy’n cael eu bwlio mewn risg uwch o hunanladdiad, hunan-niwed ac iselder. Mae dau ymhob pump (41 y cant) wedi ceisio lladd eu hunain neu wedi ystyried gwneud hynny oherwydd bwlio, ac mae’r un nifer yn dweud eu bod yn hunan-niweidio’n fwriadol yn uniongyrchol oherwydd bwlio.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch bwlio homoffobaidd mewn ysgolion, gweler Adroddiad Ysgol 2012, ymchwil diweddaraf Stonewall.
£25 – gallwn anfon 3 phecyn o adnoddau i ysgolion cynradd – Dathlu Gwahaniaeth – i athrawon. Bydd hyn yn gwella’r profiad ysgol ar gyfer 660 o ddisgyblion ysgol gynradd – a allai fod yn teimlo wedi’u heithrio ac nad ydynt yn gallu siarad yn agored ynghylch eu teulu.
£50 – gallwn gynghori 15 o bobl ifanc, a allai fod yn profi bwlio, drwy ein Gwasanaeth Gwybodaeth am ddim.
£100 – gallwn ddarparu deunyddiau ar gyfer 5 o Wirfoddolwyr Ieuenctid Stonewall fel rhan o gwrs hyfforddiant sy’n eu helpu i arwain eu hymgyrchoedd eu hunain i fynd i’r afael â homoffobia yn eu hardaloedd eu hunain. Bydd 5 Gwirfoddolwr Ieuenctid yn effeithio ar o leiaf 750 o unigolion, gan gynnwys myfyrwyr, athrawon, Aelodau Seneddol a rhieni.
Gobeithio y gallwch gymryd rhan yn yr Wythnos Gwrth-Fwlio – gyda’n gilydd gallwn sefyll yn erbyn bwlio homoffobaidd!
Yma i lawrlwytho'r Pecyn Codi Arian i Gefnogwr
Sylwadau am y dudalen