Rhieni a gofalwyr

Mae gan lawer o rieni a gofalwyr gwestiynau am fwlio homoffobig ac am y ffordd orau i gefnogi  eu plant.

Bwlio homoffobig

Mae bwlio homoffobig bron yn endemig yn ysgolion cynradd ac uwchradd Prydain gydag athrawon yn dweud mai dyma’r math mwyaf cyffredin o fwlio ar ôl bwlio oherwydd pwysau. (Yr Adroddiad Athrawon).  Gall unrhyw berson ifanc brofi bwlio homoffobig ac os yw eich plentyn yn cael ei dargedu, nid yw hyn yn golygu ei fod yn lesbiad, yn hoyw nac yn ddeurywiol.  Darllenwch fwy

Cefnogi eich plentyn

Nid yw’r ffaith ei fod yn lesbiad, yn hoyw neu’n ddeurywiol yn golygu y bydd eich plentyn yn cael amser caletach wrth dyfu i fyny. Nid yw’n golygu chwaith ei fod wedi newid. Beth sydd wedi newid yw eich bod yn ei adnabod ychydig yn well yn awr. Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i gefnogi eich plentyn ac i wneud yn siŵr y gallant fod yn hwy eu hunain a gwireddu eu potensial. Darllenwch fwy.

Gweithio gydag ysgolion

Addysg i Bawb yw ymgyrch Stonewall yn erbyn bwlio homoffobig ac ar gyfer gosod sylfeini ar gyfer cymdeithas heb wahaniaethu.  Rydym yn gweithio yn uniongyrchol gyda llywodraeth leol a chenedlaethol, staff ysgolion a phobl ifanc  er mwyn creu Prydain lle bydd pob person ifanc yn tyfu i fyny yn rhydd o ofn bwlio ac yn gallu bod yn ef neu hi ei hun.  Mae yna rai pethau y gallwch chi eu gwneud i wireddu’r weledigaeth hon.  Darllenwch fwy 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

Education
e-bulletin signup


Banc gwybodaeth