Cefnogi eich plentyn

"Alla i ddim dweud wrth neb, y gwirionedd yw does neb yn gwybod mod i’n hoyw…ges i fy nharo yn y coridor heddiw er enghraifft, a fedra i ddim dweud wrth yr athro achos byddai hynny’n golygu dod allan.”

Nick, 14, ysgol uwchradd (Cymru)

Dod allan

Gall fod yn anodd derbyn fod eich plentyn, yr oeddech yn credu eich bod yn ei adnabod mor dda, yn lesbiad,  yn hoyw neu’n ddeurywiol.  Mae gan lawer o rieni bryderon pan ddaw eu plant allan am y tro cyntaf y byddant yn profi bwlio oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol ac na fyddant yn profi’r bywyd oedolyn yr oeddent wedi ei ragweld iddynt. Gall rhai rhieni a gofalwyr ofni na fyddant byth yn cael wyrion ac wyresau, er bod llawer o gyplau lesbiaidd, hoywa deurywiol yn cael plant yn awr, mae rhai yn beio eu hunain, yn ymateb yn flin neu’n siomedig.

Mae’n bwysig cofio nad yw eich plentyn wedi newid.  Yr unig beth sydd wedi newid yw eich bod yn ei adnabod ychydig yn well.  Mae pobl ifanc yn dweud wrthym eu bod yn bryderus ynglŷn â’r ffordd y  gallai eu rhieni ymateb os byddant yn dod allan a gall hyn effeithio ar y ffordd maent yn teimlo ynglŷn â bod yn lesbiad, hoyw a deurywiol.
Mae actiwarïaid y Llywodraeth yn amcangyfrif bod chwech y cant o’r boblogaeth, tua 3.6 miliwn o bobl, yn lesbiad, hoyw neu’n ddeurywiol.  Mae pobl yn sylweddoli eu bod yn lesbiad, yn hoyw neu’n ddeurywiol ar adegau gwahanol yn eu bywydau.  Felly, er ei bod yn ymddangos fel petai eich plentyn wedi bod yn heterorywiol yn y gorffennol, nid yw’n golygu ei fod yn heterorywiol yn awr, nag y bydd yn heterorywiol yn y dyfodol.  Yn yr un modd, ni ddylai rhywun dybio mai dim ond mynd trwy gyfnod y mae person ifanc sy’n gweld ei hun yn ddeurywiol  ac y bydd yn lesbiad, yn hoyw neu’n ddeurywiol yn y dyfodol.

Gwybodaeth a chyngor i rieni a gofalwyr

Pan fydd plentyn yn dod allan, mae gan rieni a gofalwyr lawer o gwestiynau yn aml ac mae llawer yn canfod bod siarad gyda rhieni eraill sydd â phlant lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol o gymorth iddynt.  Mae yna sefydliadau sy’n cynnig y math hwn o gymorth cyfoedion ac sy’n cyfeirio pobl at adnoddau pellach ar eu gwefan.

• Teuluoedd a ffrindiau pobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol (FFLAG)

• Sefydliad  gwirfoddol sy’n cefnogi rhieni a’u merched a’u meibion lesbiaidd, hoyw a deurywiol

• Cefnogaeth ar gyfer Rhieni Lesbiaid a Dynion Hoyw (SPLAG)

• Sefydliad gwirfoddol sy’n cefnogi rhieni a’u merched a’u meibion lesbiaidd a hoyw yng Nghymru

• Sianel Deledu Rhianta

• Clip o ffilm ar gyfer rhieni ar sut i gefnogi eu plentyn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol

• ParentlinePlus

• Llinell gymorth a gwefan ar gyfer rhieni gyda gwybodaeth am gyfres o faterion gan gynnwys bwlio

Gwybodaeth a chyngor ar gyfer pobl ifanc

Pan fydd pobl ifanc yn sylweddoli eu bod yn lesbiad, yn hoyw neu’n ddeurywiol, mae ganddynt lawer o gwestiynau hefyd a bydda angen iddynt gael gwybodaeth sy’n berthnasol iddynt hwy er mwyn eu galluogi i wneud dewisiadau diogel.
Gall rhieni a gofalwyr sicrhau bod gan eu plant fynediad at lyfrau a ffilmiau da sy’n cwmpasu themâu ynghylch cyfeiriadedd rhywiol a dod allan.  Ffilm yw. FIT wedi ei chynhyrchu gan Stonewall ar gyfer pobl ifanc 11oed a throsodd sy’n ymdrin â chyfeillgarwch, dod allan a ffitio i mewn.
Mae’n bwysig hefyd i bobl ifanc gael cyfoedion ac oedolion y gallant siarad â hwy ynglŷn â bod yn hoyw.  Gall rhieni a gofalwyr ddefnyddio cronfa ddata hawdd ei hymchwilio Stonewall Beth sydd yn fy ardal i ddod o hyd i grwpiau cymunedol a gwasanaethau cefnogi.

Gall rhieni a gofalwyr ’weithio gyda’r ysgol hefyd i sicrhau bod bwlio homoffobig yn cael ei rwystro a’u bod yn mynd i’r afael â hyn a bod eu plentyn yn cael ei gefnogi ac yn derbyn y wybodaeth sydd ei angen arno/arni.
• Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost atom yn addysg@stonewallcymru.org.uk neu galwch ein llinell gymorth am ddim 08000 50 20 20.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

Education
e-bulletin signup


Banc gwybodaeth