Ymunwch ym Mis Hanes LHDT – yn yr ysgol

Mae llawer o ffyrdd y gall holl gymuned yr ysgol ymuno yng ngweithgareddau Mis Hanes LHDT. Dyma rai ffyrdd y gall Stonewall gefnogi ysgolion a cholegau, yn ogystal â myfyrwyr, i gymryd rhan.

  • Ymunwch â’n rhaglen arloesol, Hyrwyddwyr Ysgolion.

    School Champs

Mae rhaglen Hyrwyddwyr Ysgolion Stonewall yn rhoi cymorth i ysgolion atal a mynd i’r afael â bwlio homoffobaidd, yn ogystal â dathlu gwahaniaeth. Mae manteision ymuno â’r rhaglen yn cynnwys:

  • Ymweliadau gan fodelau rôl ar gyfer Mis Hanes LHDT – mae ein hymweliadau proffil uchel ag ysgolion yn ecsgliwsif i aelodau, ac yn y gorffennol maent wedi cynnwys Syr Ian McKellen, Yr Is-Gorporal James Wharton, Layton Williams ac unigolion eraill o amrywiaeth o sefydliadau.
  • Hyfforddiant yn ystod Mis Hanes LHDT – cewch hyfforddiant penodol o ansawdd ar gyfer eich staff gan dîm addysg Stonewall.
  • Templed gwasanaeth ysgol Stonewall ynghylch bwlio homoffobaidd – Mae ein templed wedi ei lunio i helpu athrawon i gyflwyno eu gwasanaethau eu hunain ar fynd i’r afael â bwlio homoffobaidd ac maent yn cynnwys nodiadau cynhwysfawr i athrawon.

Os nad yw eich ysgol yn rhan o’r rhaglen ar hyn o bryd, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth neu cofrestrwch heddiw!

  • Trefnwch ddigwyddiad hwyliog i godi ymwybyddiaeth a chodi arian ar gyfer Stonewall

Mae llawer o ffyrdd hwyliog y gallwch godi arian i helpu i gefnogi gwaith Stonewall yn atal a mynd i’r afael â bwlio homoffobaidd.Dysgwch fwy.

 

Rhowch wybod i ni os gallwn eich helpu i baratoi ar gyfer gweithgareddau Mis Hanes LHDT. Ebostiwch education@stonewall.org.uk neu ffoniwch 0207 593 1850 i siarad ag aelod o’r tîm addysg.

 

 

 


 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth