Pam dathlu Mis Hanes LHDT?

Drwy gydol hanes, mae pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol wedi gwneud cyfraniadau dylanwadol iawn i bob agwedd ar fywyd cyhoeddus, ac nid yw’r gwyddorau yn eithriad. O Francis Bacon, un o arloeswyr y dull gwyddonol, at Alan Turing, y bu ei waith torri codau yn hollbwysig i fuddugoliaeth Prydain yn yr Ail Ryfel Byd.

Fodd bynnag, yn aml iawn nid yw’r cyfraniadau hyn yn cael eu cydnabod yn yr ystafell ddosbarth. Mae hyn nid yn unig yn anwybyddu rhan hanfodol o’n hanes, ond hefyd yn golygu bod myfyrwyr hoyw yn gallu teimlo’n anweledig a heb fodelau rôl.

Canfu ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt ar gyfer Stonewall yn Adroddiad Ysgol 2012:

  • Bod mwy na hanner y bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol (53 y cant) yn dweud nad ydynt byth yn cael dysgu dim am faterion lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn eu gwersi.

  • Mai dim ond un ymhob tri (34 y cant) o’r disgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy’n cael trafod neu ddysgu am faterion hoyw yn yr ysgol sy’n dweud bod hyn yn digwydd mewn ffordd sy’n gadarnhaol ar y cyfan.

  • Bod mwy nag un ymhob tri (35 y cant) o ddisgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn dweud nad yw eu llyfrgell ysgol yn cynnwys llyfrau na gwybodaeth am bobl hoyw na materion hoyw.

Mae hyn i gyd yng nghyd-destun amgylchedd ysgol lle mae mwy na hanner y bobl ifanc hoyw yn profi bwlio homoffobaidd a lle mae mwy na hanner hefyd yn teimlo nad ydynt “yn perthyn yn yr ysgol”.

Fodd bynnag, canfu’r Adroddiad Ysgol hefyd y gall ysgolion, drwy fynd i’r afael â materion lesbiaidd, hoyw a deurywiol mewn modd cadarnhaol, er enghraifft drwy ddathlu Mis Hanes LHDT, wella profiadau disgyblion hoyw yn eu hysgol, a hynny’n sylweddol.

  • Mae disgyblion hoyw yn llawer llai tebygol o gael eu bwlio mewn ysgolion sy’n addysgu ac yn mynd i’r afael â materion hoyw mewn modd cadarnhaol, o gymharu ag ysgolion sy’n gwneud hynny mewn ffordd negyddol (76 y cant o gymharu â 46 y cant).

  • Pupils who are taught positively about lesbian, gay and bisexual issues are much more likely to feel part of their school community ( 87 per cent compared to 55 per cent)

  • Mae disgyblion sy’n cael eu haddysgu mewn ffordd gadarnhaol am faterion lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn llawer mwy tebygol o deimlo’n rhan o gymuned yr ysgol (87 y cant o gymharu â 55 y cant)


 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)