Elusen yw Stonewall sy’n gweithio dros gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) – yn y cartref, yn y gwaith ac yn yr ysgol.
Mae gan bobl LHD hawl i gael eu trin yn deg ym mhob rhan o’u bywydau, boed hynny yn yr ysgol neu goleg neu brifysgol. Mae ganddynt hawl i gael eu trin yn deg yn y gwaith neu mewn unrhyw sefyllfa arall fel ymweld ag ysbyty neu swyddfa’r heddlu neu hyd yn oed archebu ystafell mewn gwesty.
Rydym yn ymgyrchu i newid deddfau a newid agweddau pobl. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn cael eu trin fel pawb arall a’u bod yn cael eu parchu gan bawb.
Sefydlwyd Stonewall yn 1989 i lobïo yn erbyn deddf o’r enw Adran 28. Roedd Adran 28 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i awdurdodau lleol ‘hyrwyddo cyfunrhywiaeth’. Gwnaeth hyn i awdurdodau lleol feddwl na allent wneud dim fyddai’n gwneud pobl lesbiaidd a hoyw yn normal a phositif.
Cafodd Adran 28 effaith arbennig o andwyol mewn ysgolion. Roeddent yn credu na allent wneud dim i rwystro bwlio homoffobig gan eu bod yn meddwl y byddent yn torri’r gyfraith. Roeddent yn meddwl na allent ddweud dim byd positif ynglŷn â bod yn lesbiad, yn hoyw na deurywiol neu hyd yn oed roi adnoddau i ddisgyblion hoyw fel llyfrau neu wybodaeth am grwpiau ieuenctid. Roedd hyn yn golygu fod disgyblion LHD neu rai’n meddwl y gallent fod felly yn darganfod nad oedd ganddynt unrhyw un i siarad â hwy, neb i’w cefnogi os oeddent yn cael eu bwlio a dim modd o gael gwybodaeth fyddai o gymorth iddynt.
Daeth grŵp o bobl at ei gilydd a chychwyn ymgyrch i gael gwared ag Adran 28 gan dargedu Aelodau Seneddol a’r cyhoedd. Yr enw a roddwyd ar y grŵp oedd Stonewall. Cafodd yr ymgyrch lawer o gefnogaeth ac ymgyrchodd Stonewall dros bethau eraill hefyd. Cawsant lawer o wahanol lwyddiannau ac, o’r diwedd, diddymwyd Adran 28 yn 2003. Nid oedd yn bodoli mwyach. Yn anffodus, ar ôl cyfnod mor hir, nid oedd gan ysgolion y wybodaeth na’r hyder i ddechrau cefnogi eu myfyrwyr LHD yn syth ac fe gredai rhai ysgolion o hyd na fedrent gefnogi myfyrwyr LHD. Felly, dechreuodd Stonewall weithio gydag ysgolion i’w helpu i ddeall y dylent gefnogi myfyrwyr a sut y dylent wneud hynny.
Nid Adran 28 yw’r unig ddeddf y mae Stonewall wedi helpu ei newid. Dros y degawd diwethaf yn arbennig mae Stonewall wedi arwain gyda newid llawer o ddeddfau i sicrhau bod gan bobl LHD yr un hawliau cyfartal â phawb arall a sicrhau ei bod yn anghyfreithlon iddynt gael eu trin yn annheg mewn unrhyw ran o’u eu bywydau.
Er bod newid deddfau’n bwysig iawn, nid dyna’r unig beth sy’n angenrheidiol i wneud yn siŵr bod pobl LHD yn cael eu trin yn deg bob amser. Mae Stonewall Cymru’n gweithio’n galed hefyd i newid y safbwyntiau sydd gan rai pobl am bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae gan lawer o bobl safbwyntiau negyddol neu ystrydebol am bobl LHD. Mae hynny’n golygu eu bod yn disgwyl i bobl LHD edrych ac/neu ymddwyn mewn ffyrdd arbennig. Weithiau gallant gredu pethau am bobl LHD nad ydynt o reidrwydd yn wir. Mae gan rai pobl safbwyntiau negyddol am bobl LHD. Mae gan bawb hawl i’w farn. Mae hyn yn mynd yn broblem os yw eu safbwyntiau negyddol am bobl LHD yn golygu eu bod yn eu trin yn wahanol, er enghraifft, os yw meddyg yn gwrthod trin lesbiad. Hefyd gall olygu bwlio ac aflonyddu ar rywun - neu hyd yn oed eu brifo’n gorfforol - am eu bod yn LHD.
I helpu i newid y ffordd mae rhai pobl yn meddwl am bobl LHD mae Stonewall yn ymgyrchu mewn tair prif ffordd:
1. Yn y Cartref. Mae Stonewall yn ymchwilio i lawer o feysydd bywydau pobl LHD i ddarganfod beth sy’n digwydd iddynt a beth y gellir ei wneud i wella’r ffordd maent yn cael eu trin. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a gawn ni (y cyhoedd yn ogystal â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau pwysig) i ddeall y gwahanol heriau sy’n wynebu pobl LHD yn well a deall sut y gallant fynd i’r afael â’r heriau hynny. Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am ymchwil Stonewall a sut i’w ddefnyddio.
2. Yn yr Ysgol: Mae ein hymgyrch flaenllaw wedi bod yn gweithio i fynd i’r afael â bwlio homoffobig yn ysgolion Prydain ers 2005. Efallai eich bod wedi gweld ein slogan enwog ‘Some People are Gay. Get Over It’ ar fws, yn y tiwb, ar fwrdd poster neu hyd yn oed yn eich ysgol! Neu efallai eich bod wedi gweld ein ffilm ‘Fit’ sy’n cael ei defnyddio gan ysgolion i fynd i’r afael â bwlio homoffobig Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein hymgyrch mewn ysgolion.
3. Yn y Gweithle: Mae gan Stonewall ystod o wahanol ffyrdd o weithio gyda chyflogwyr i sicrhau eu bod yn trin unrhyw aelod o staff sy’n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yn yr un modd ag y maent yn trin pawb arall - gan gynnwys eu cefnogi os ydynt yn cael eu bwlio a gwneud yn siŵr eu bod yn cael yr un buddion. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein gwaith gyda chyflogwyr.
I gael gwybodaeth lawn am yr hyn mae Stonewall Cymru yn ei wneud ewch i’r adran Ynglŷn â Ni ar ein prif wefan.
Sylwadau am y dudalen