
Fy enw i yw Joe, rydw i’n 23 oed ac rwy’n byw ym mhentref Bosherton, wrth ochr Penfro. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel prentis i gwmni adeiladu cychod yn Noc Penfro. Fel rhan o’r brentisiaeth, rydw i hefyd yn mynd i Goleg Sir Benfro i wneud HNC mewn Peirianneg Fecanyddol. Rydw i hefyd yn gadeirydd grŵp LHDT+ Coleg Sir Benfro.
Rydw i’n credu mai un o’r heriau mwyaf i’r gymuned LHD yng Nghymru yw taclo’r ffaith bod y gair ‘hoyw’ a ‘gay’ yn cael ei ddefnyddio fel term negyddol, sy’n cael ei daflu o gwmpas mor ffwrdd-â-hi mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a nawr hyd yn oed yn y gweithle. Mae’n rhaid i ni roi diwedd ar hyn drwy ymestyn geirfa pobl. Mae’n drychineb bod pobl yn methu allan ar addysg achos eu bod nhw’n ofni cael eu bwlio.
O ran sut rydw i’n teimlo fel rhywun sy’n hoyw ac allan yn fy nghymuned leol, dydw i ddim yn amlwg o camp a dydw i ddim yn diffinio fy hunan fel rhywun sy’n hoyw uwchben popeth arall, felly mae llawer o bobl rwy’n cwrdd â nhw, yn y gwaith neu wrth chwarae badminton neu wrth fynd o gwmpas y lle, yn meddwl fy mod i’n syth. Mae hyn, wrth gwrs, yn golygu bod rhaid i fi wneud tipyn o ‘ddod allan’ mewn sefyllfa fel hyn, ac mae hynny’n gallu bod ychydig bach yn lletchwith. Weithiau bydd hynny achos bod rhywun yn gofyn oes gen i gariad, neu pam fy mod i’n mynd i Lundain (pan fydda i’n mynd i Pride). Mae Sir Benfro yn lle eithaf bach, ac yn aml rwy’n teimlo bod pobl yn methu deall pam ein bod ni fel rydyn ni. Wedi dweud hynny, ar y cyfan dim ond ymateb cadarnhaol rydw i wedi ei gael gan ffrindiau, y teulu a chydweithwyr, ac mae hynny’n wych o beth.
O ran hoff lyfr, mae’n rhaid i fi ddewis rhywbeth rydw i wedi’i ddarllen yn ddiweddar, achos mae gen i gymaint o hoff lyfrau. Falle bod hyn braidd yn ystrydebol, ond rydw i am ddewis Gypsy Boy gan Mikey Walsh, stori wir a hudolus am fachgen o deulu sipsiwn Romani sy’n rhedeg i ffwrdd oddi wrth dad treisgar, i fod gyda’r dyn mae’n ei garu. Wrth ddarllen y stori fe wnes i sylweddoli, roeddwn i’n meddwl bod pethau’n ddrwg arna i, ond rwy’n siŵr bod llawer o bobl eraill wedi cael profiadau tipyn gwaeth. Pan mae’n dweud y stori amdano’n gweld ei fam ar ôl gadael cymuned y sipsiwn, roeddwn i’n crio fel babi!
Fy hoff raglen deledu yw Spooks, nid dim ond achos Richard Amitage, ond rydw i wrth fy modd gyda chyfresi ysbiwyr a chyffro. Mae hefyd yn rhoi cipolwg diddorol iawn ar pa mor agos rydyn ni wedi dod at armagedon (yn ôl y sôn). Heblaw am Spooks, roeddwn i hefyd yn hoff iawn o Beautiful People, oedd yn sôn am ddau fachgen yn dod i delerau â’u rhywioldeb ym maestrefi Reading. Rwy’n credu taw’r eiliad dyngedfennol i fi oedd diwedd cyfres 2 pan mae e’n dod allan i’w fam mewn llythyr. Hyfryd!
Pe bawn i’n Brif Weinidog Cymru, byddwn i hefyd yn gwneud iechyd rhywiol yn flaenoriaeth ar yr agenda iechyd yng Nghymru. Mae heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn dechrau dod yn bandemig ledled Cymru, ac nid dim ond yn y gymuned LHD. Drwy sicrhau bod clinig GUM ar gael yn haws i bobl ifanc yng Nghymru, ac addysgu pobl yn well am y risgiau, gallen ni stopio hyn rhag digwydd.
Sylwadau am y dudalen