Ifanc ac Allan: Stephanie Lloyd

Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru Steph Lloyd sôn am ei phrofiad

Steph Lloyd NUSBle wyt ti’n byw?

Rwy’n byw yng nghanol dinas Caerdydd, ac rwy’n gweithio ym Mae Caerdydd.

Beth wyt ti’n wneud?

Rydw i newydd gael fy ethol am ail dymor yn Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru. Mae’r Undeb yn gweithredu fel llais ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru, yn hyrwyddo eu sgiliau ac yn brwydro dros eu hawliau.

Beth yw’r heriau mwyaf sy’n wynebu pobl ifanc LHD (lesbiaidd, hoyw a deurywiol) yng Nghymru yn dy farn di?

Mae homoffobia yn dal i fod mor amlwg yn ein cymdeithas – rydyn ni’n dal i wneud esgusodion dros homoffobia, fel petai e’n dderbyniol, fel petai’n norm. Mae cymaint o bobl yn credu ein bod ni wedi cyrraedd cydraddoldeb, ond dyw hynny ddim yn wir o gwbl. Mae pobl ifanc yn dal i aros yn y closet, yn ofni dod allan i’w teuluoedd, i’w ffrindiau, i’r byd.

Mae pobl ifanc LHD yng Nghymru yn dal i orfod brwydro am eu hawl i fod yn gydradd. Maen nhw’n dal i orfod cuddio eu cariad y tu ôl i ddrysau caeedig ac yn dal i orfod wynebu casineb bob dydd. Mae cydraddoldeb yn ôl y gyfraith yn un peth, ond rwy’n poeni bod perygl i ni fod yn hunanfodlon.

Rydyn ni’n dal i orfod brwydro, nid yn unig i gael newidiadau yn y gyfraith, ond er mwyn cael newid yn ein diwylliant a newid o ran cael y gymdeithas i’n derbyn. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer pobl sydd ar yr ymylon yn y mudiad, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl o wahanol ffydd.

Sut deimlad yw bod ‘allan’ yn dy gymuned leol? Beth yw dy brofiad di?

Weithiau mae’n gallu bod yn anodd iawn ymdopi gyda’r holl gamwahaniaethu a homoffobia rydw i’n ei weld ac yn ei brofi, ac yn arbennig pan mae cymaint o’r gwahaniaethu yna yn digwydd ochr yn ochr â gwahaniaethu ar sail rhyw. I lawer o bobl, dim ond dynion amlwg, gwyn, dosbarth canol yw’r gymuned, ac mae hynny’n golygu yn aml iawn bod merched hoyw yn dal i fod yn abnormal.

I fi, herio homoffobia yw un o’r agweddau anoddaf pan fyddwch chi allan. Pan fydd rhywun yn sgrechian arna i mewn bar am fod yn lesbiad, neu pan fydd dyn yn dweud wrtha i mai heb ffeindio’r dyn iawn ydw i, mae’n gallu bod yn anodd gwybod sut i ymateb. Weithiau dydw i ddim yn teimlo’n gorfforol ddiogel i herio pobl neu bydda i’n cael llond bol ar gyfiawnhau fy modolaeth i bobl eraill.

Ond mae gen i griw da o ffrindiau gwych o fy nghwmpas, sy’n fy nghefnogi bob cam. Rwy’n gwneud popeth alla i, pa mor fach bynnag, i geisio newid y byd o’m cwmpas er gwell. Rydw i wedi bod yn falch o pwy ydw i erioed, ac er bod wynebu gwahaniaethu a bwlio homoffobaidd yn gallu bod yn anodd, fyddwn i byth yn newid pwy ydw i am ddim byd.

Hoff lyfr a rhaglen deledu?


Hoff lyfr? Mae’n rhaid i fi ddweud Harry Potter. A phan fydd cyfle gyda fi, yn sicr Keeping up with the Kardashians sy’n haeddu teitl fy hoff raglen deledu ar hyn o bryd.

Pe bai ti’n Brif Weinidog, beth fyddet ti’n newid?

Byddwn i’n gwneud y briff cydraddoldebau yn swydd gyflawn yn y cabinet, nid yn ychwanegiad. Byddwn i hefyd yn cyflwyno comisiynwyr ar gyfer grwpiau cydraddoldeb. Mae’r Cynulliad wedi gwneud pethau gwych fel gweithredu dyletswyddau’r ddeddf cydraddoldeb yn llawn, ond mae’n hanfodol ein bod ni’n ceisio gwneud Cymru yn wlad llawer mwy parod i dderbyn pobl a mwy rhydd o gasineb.

Byddech chi’n disgwyl i fi ddweud rhywbeth am addysg, yn enwedig gan fod addysg wedi bod â swyddogaeth mor bwysig o ran creu cymdeithas fwy cyfartal. Hoffwn i weld system addysg sy’n cysylltu fel dolen drwy gydol bywyd – o’r ysgol feithrin a’r ysgol gynradd yr holl ffordd drwy’r ysgol uwchradd ac ymlaen i’r brifysgol neu’r coleg. Rwy’n credu bod cyfle unigryw gan Gymru fel gwlad flaengar i ailddychmygu’r gyfundrefn addysg.


 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth