Ystyr dod allan yw dweud wrth rywun eich bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol. Yn wahanol i hil, lliw gwallt neu’r ffaith bod rhywun yn gwisgo sbectol, does dim ffordd o wybod wrth edrych ar rywun os ydyn nhw’n LHD, felly os ydych chi eisiau i bobl wybod, mae’n bosibl iawn y bydd rhaid i chi ddweud wrthyn nhw.
Mae’r broses o ddod allan yn wahanol i bob unigolyn, ac nid digwyddiad un tro yw dod allan. Weithiau gallech deimlo bod rhaid i chi ddod allan bob dydd, neu o leiaf bob tro y byddwch yn cwrdd â rhywun newydd!
Dyma rai pobl y byddwch yn dod allan iddynt o bosibl: eich rhieni; ffrindiau; athrawon; cydweithwyr; aelodau eraill o’r teulu – a dweud y gwir, unrhyw un a phawb rydych chi’n eu nabod, a phawb y byddwch chi’n cwrdd â nhw!
Mae’n bosibl dod allan mewn llawer o wahanol ffyrdd – weithiau efallai y byddwch am ddweud yn benodol wrth rywun eich bod yn LHD, fel pan fyddwch yn dweud wrth eich teulu. Ond mewn sefyllfaoedd eraill efallai y byddwch yn dod allan drwy ddweud rhywbeth digon syml, fel sôn am ryw eich partner wrth rywun.
Sylwadau am y dudalen