Cymorth gyda dod allan

Mae rhai pobl yn dod allan heb ddim problemau o gwbl, ond i eraill efallai y bydd anawsterau a thrafferthion. Gall fod yn anodd iawn os bydd y bobl sy’n bwysig i chi yn cael trafferth derbyn pwy ydych chi.


Mae gan wefan rucomingout archif o straeon dod allan gan bobl o bob oedran a phob cefndir, a rhai cynghorion ynghylch dod allan a chyfweliadau gyda phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol a fydd yn eich ysbrydoli. Os ydych chi’n ystyried dod allan, efallai y bydd yn ddefnyddiol edrych ar y wefan er mwyn darllen sut y daeth pobl eraill allan. Cofiwch nad yw Stonewall yn gyfrifol am gynnwys y wefan hon nac unrhyw wefan allanol arall rydyn ni’n cyfeirio atynt.
 

Os hoffech chi siarad gyda rhywun ynghylch dod allan, mae llawer o sefydliadau y gallwch chi fynd atyn nhw. Mae Banc Gwybodaeth ar-lein Stonewall, sydd ar gael yma, yn cynnwys dolenni i lawer o’r sefydliadau hynny, neu gallwch gysylltu â’n Gwasanaeth Gwybodaeth yn uniongyrchol i gael awgrymiadau a chymorth: info@stonewall.org.uk neu 08000 502020.

Pob lwc – rydych chi’n cychwyn ar antur gyffrous iawn!


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth