Pam dod allan?

Mae pobl yn dod allan mewn pob math o wahanol sefyllfa ac am bob math o wahanol resymau. Yn bennaf, mae pobl eisiau bod yn onest ynghylch pwy ydyn nhw, yn enwedig gyda’r bobl maen nhw’n eu caru.


Gall cuddio pwy ydych chi fod yn frwydr fawr a gall hefyd olygu y byddwch yn colli allan ar rai pethau, fel bod eich partner yn gallu magu perthynas gyda’ch teulu. Mae llawer o bobl ifanc yn dod allan wrth eu teulu fel eu bod yn gallu bod yn onest gyda nhw am eu bywydau, a gwneud pethau fel dod â’u partner i ddigwyddiad teuluol.


Nid yw dod allan i rai pobl yn golygu bod rhaid i chi ddod allan i bawb. Efallai y bydd eich teulu yn gwybod eich bod yn hoyw ond na fyddwch am ddweud wrth eich cydweithwyr yn y gwaith – mae hynny’n iawn, eich penderfyniad chi yw wrth bwy rydych am ddweud a phryd.


Mae rhai pobl yn teimlo bod bywyd yn llawer haws ar ôl dod allan. Efallai ei fod yn golygu eu bod nhw’n gallu bod yn onest am ble byddant yn cymdeithasu, pwy yw eu partner a phethau eraill am eu bywyd y byddai’n rhaid iddyn nhw eu cuddio petaen nhw am gadw’r ffaith eu bod yn lesbiad, yn hoyw neu’n ddeurywiol yn gyfrinach.


Yn anffodus, rydyn ni’n byw mewn cymdeithas lle mae llawer o bobl yn cymryd yn ganiataol bod pawb yn heterorywiol. Weithiau, os ydych yn LHD, gall fod yn anodd gwrando ar bobl yn gwneud tybiaethau am ryw eich partner a phethau eraill y mae eich cyfeiriadedd rhywiol yn effeithio arnynt; mae dweud wrthyn nhw eich bod yn hoyw yn gallu bod yn ffordd ddefnyddiol o roi diwedd ar y tybiaethau yma.


Mae dod allan hefyd yn gallu bod yn werthfawr iawn i’r gymuned LHD yn ei chyfanrwydd. Mae rhoi gwybod i bobl bod llawer o bobl LHD allan yn y byd, gyda phob math o wahanol gefndiroedd, yn gwisgo ac yn ymddwyn mewn pob math o wahanol ffyrdd a gyda phob math o wahanol ddiddordebau, yn ffordd o helpu pobl i ddeall nad yw bod yn LHD yn anarferol na hyd yn oed yn gyffrous iawn, mae’n rhywbeth digon cyffredin.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth