Ydych chi’n gwybod am ysgol sydd angen cefnogaeth yn y dasg o fynd i’r afael â bwlio homoffobig a dathlu gwahaniaeth? Darllenwch am raglen Hyrwyddwyr Ysgolion Stonewall.
Gall pob gweithiwr ieuenctid, pa un a ydynt yn gweithio ar brosiectau yn arbennig ar gyfer pobl ifanc lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol ai peidio, chwarae rhan allweddol yn y dasg o hybu agweddau cadarnhaol tuag at bobl LHD. Gall bwlio homoffobig ddigwydd mewn unrhyw leoliad – gan gynnwys grwpiau a chanolfannau ieuenctid. Os ydych yn clywed y bobl ifanc yr ydych chi’n gweithio gyda hwy yn defnyddio ymadroddion fel ‘Mae hynna mor hoyw’ a ‘Ti mor hoyw’ neu’n arfer mathau eraill o homoffobia yna mae gennych rôl i’w chwarae wrth herio hyn. Mae Stonewall wedi cynhyrchu llawer o wahanol adnoddau a chanllawiau y byddwch yn eu cael yn ddefnyddiol. Darllenwch fwy.
Mae grwpiau ieuenctid lleol ar gyfer pobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) yn fan cyswllt cynnar ar gyfer pobl ifanc sy’n dod i delerau gyda’u cyfeiriadedd rhywiol. Mae bron i ddwy ran o dair o bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol wedi profi bwlio homoffobig ac nid yw saith o bob deg disgybl erioed wedi cael ei ddysgu am faterion hoyw yn y dosbarth. Gall grwpiau ieuenctid lenwi’r gwagle hwn trwy roi gwybodaeth, adnoddau a chyfleoedd hollbwysig i gyfarfod pobl ifanc LHD eraill nad ydynt ar gael yn yr ysgolion. Mae Stonewall wedi cynhyrchu adnoddau codi ymwybyddiaeth yn ogystal â chanllaw i’ch cefnogi yn eich gwaith. Darllenwch fwy.
Mae amryw o weithwyr ieuenctid eisoes yn llwyddiannus iawn yn rhwystro bwlio homoffobig a mynd i’r afael â hyn ac yn cefnogi’r holl bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy. Darllenwch fwy.
Sylwadau am y dudalen