Mae bwlio homoffobaidd yn achosi niwed parhaol i bobl ifanc ac yn difetha’r ysgolion a cholegau lle mae’n digwydd. Mae gwneud i bobl ifanc – beth bynnag eu rhywioldeb – deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u gwerthfawrogi yn gyfle gwerthfawr i’r system addysg drawsnewid bywydau nifer sylweddol o ddisgyblion a myfyrwyr.
Gall bwlio homoffobaidd / heterorywiaethol effeithio ar bob plentyn ysgol, ac yn wir ar athrawon, rhieni a llywodraethwyr. Gall plant gael eu bwlio os ydynt yn gadarn eu hunaniaeth lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, yn amau eu rhywioldeb, neu os oes rhywun yn meddwl efallai eu bod yn LHD.
Gall disgyblion strêt hefyd gael eu bwlio os oes rhywun yn meddwl eu bod yn LHD, ac yn aml gellir eu 'bwlio' i bigo ar ddisgyblion LHD i 'brofi' eu bod hwy, eu hunain, yn strêt. Mae’r bwlio homoffobaidd a heterorywiaethol hwn yn effeithio ar ddiwylliant yr ysgol yn gyfan, a’r ffordd yr ydym oll yn datblygu fel oedolion.
Yn 2005 lansiodd Stonewall Cymru Addysg i Bawb yng Nghymru, ymgyrch i sicrhau nad yw mynediad at addysg yn cael ei gyfyngu gan gyfeiriadedd rhywiol person, ac y gall ysgolion a systemau addysg ddelio’n briodol gyda homoffobia a bwlio homoffobaidd. Mae Stonewall Cymru yn gweithio gyda chlymblaid eang o fudiadau, gan gynnwys Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol a chymunedol a grwpiau ieuenctid ac LHD i ddatblygu cynllun gweithredu ledled Cymru i daclo’r broblem hon.
Am fwy o wybodaeth am ffyrdd o herio bwlio homoffobaidd yng Nghymru, ewch at ein hadran Addysg i Bawb.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen