Awdurdodau Lleol

Mae ymchwil Stonewall yn dangos bod bwlio homoffobig yn endemig yn ysgolion Prydain.  Mae awdurdodau lleol yn chwarae rôl allweddol yn y dasg o fynd i’r afael â homoffobia a bwlio homoffobig.  Mae dros dri chwarter o’r Awdurdodau Lleol yn Lloegr eisoes yn gweithio gyda Stonewall trwy’r rhaglen Hyrwyddwyr Addysg i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Mae adroddiad Stonewall, Hyrwyddwyr Ysgolion, sy’n torri tir newydd, yn dangos bod bron i ddwy ran o dair (65 y cant) o ddisgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol ysgolion uwchradd yn profi bwlio homoffobig uniongyrchol yn amrywio o gam-drin geiriol i fygwth bywyd.

Mae Awdurdodau lleol yn defnyddio deunyddiau ymchwil a chanllawiau yn ogystal â deunyddiau codi ymwybyddiaeth Stonewall i rwystro bwlio homoffobig a mynd i’r afael â hyn yn eu cymunedau lleol.  Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol trwy ein rhaglen Hyrwyddwyr Addysg sy’n rhoi cefnogaeth a chyngor pwrpasol i awdurdodau lleol ar sut i helpu yn eu hysgolion lleol.  Trwy’r rhaglen hon mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda Stonewall a gyda’i gilydd, i sefydlu ffyrdd o fynd i’r afael â bwlio homoffobig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac i hyrwyddo amgylchedd dysgu diogel a chynhwysol i bob plentyn a pherson ifanc.

Ers cyflwyno’r rhaglen yn 2008, mae dros chwarter awdurdodau lleol Lloegr wedi ymuno yn y rhaglen Hyrwyddwyr Addysg ac wedi dangos eu hymrwymiad i’r dasg o fynd i’r afael â phroblem endemig homoffobia mewn ysgolion.
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen Hyrwyddwyr Addysg, y manteision a chostau ymuno cliciwch yma.

Hefyd mae gennym dudalennau penodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn asiantaethau eraill fel yr heddlu, y gwasanaethau iechyd neu gydag ieuenctid.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

Education
e-bulletin signup


Banc gwybodaeth