Datblygwyd ein rhaglen Hyrwyddwyr Addysg yn dilyn llwyddiant mawr Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall, fforwm arfer da Prydain lle gall cyflogwyr weithio gyda Stonewall i wella profiad eu staff LHD yn y gweithle a gweld y buddiannau busnes sy’n deillio o hynny. Mae gan y rhaglen, a lansiwyd yn 2001, dros 600 o aelodau yn awr.
Fel rhan o’r rhaglen Hyrwyddwyr Addysg, mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda ni a gyda’i gilydd, i sefydlu ffyrdd y gallant fynd i’r afael â bwlio homoffobig a hyrwyddo amgylchedd dysgu diogel a chynhwysol i bob person ifanc. Am restr o aelodau cliciwch yma
• Cynllun gweithredu unigryw ac ymarferiad meincnodi
• Seminarau a digwyddiadau arfer da unigryw ac am ddim
• Cynrychiolaeth o Stonewall mewn dau ddigwyddiad neu gyfarfod lleol y flwyddyn
• Blaenoriaeth ac archebu gyda disgownt yng nghynhadledd Addysg i Bawb Stonewall
• Defnydd o logo Hyrwyddwyr Addysg Stonewall i ddangos yn gyhoeddus yr ymrwymiad i’r dasg o fynd i’r afael â bwlio homoffobig
• Pwynt cyswllt Stonewall a enwir ar gyfer cefnogaeth a chanllawiau
• Mynediad i arferion gorau awdurdodau lleol ar draws Prydain
• Cyfleoedd rhwydweithio gydag awdurdodau lleol eraill
• E-fwletinau rheolaidd yn rhoi gwybodaeth a diweddariadau ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan Hyrwyddwyr Addysg
• Mae bwlio homoffobig yn endemig yn ysgolion Prydain. Mae ymchwil Stonewall yn 2007, Yr Adroddiad Ysgol, wedi dangos fod bron i ddwy ran o dair o ddisgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol mewn ysgolion uwchradd wedi profi bwlio homoffobig. A hefyd, nid dim ond pobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy’n cael eu heffeithio gan fwlio homoffobig; Gall unrhyw berson sy’n ymddangos yn ‘wahanol’ neu’n hoyw neu sydd â ffrindiau a theulu hoyw ddioddef bwlio homoffobig hefyd.
• Nid oes angen i’r dasg o fynd i’r afael â bwlio homoffobig fod yn anodd. Mae ysgolion sy’n mabwysiadu agwedd dim goddefgarwch tuag at fwlio homoffobig ac yn sicrhau bod gan staff yr hyder a’r gefnogaeth y maent ei angen i ddelio ag ef yn darparu amgylcheddau dysgu diogel a chadarnhaol i bob plentyn a pherson ifanc. Mewn ysgolion sy’n dweud bod bwlio homoffobig yn anghywir, mae pobl ifanc hoyw 60 y cant yn fwy tebygol o beidio bod wedi cael eu bwlio. Mae mynd i’r afael â bwlio homoffobig yn haws gyda chymorth. Mae ein Rhaglen Hyrwyddwyr Addysg yn helpu awdurdodau lleol i roi’r cymorth hwn mewn ysgolion.
• Mae gan awdurdodau lleol rôl bwysig i’w chwarae yn y dasg o fynd i’r afael â bwlio homoffobig a homoffobia. Maent yn rhoi rôl arweiniol i’w hysgolion, yn dod â’u hysgolion lleol at ei gilydd i rannu arfer da ac arwain wrth ddosbarthu gwybodaeth i helpu eu hysgolion i fynd i’r afael â bwlio homoffobig. Bydd fframwaith ar gyfer gweithredu’r Hyrwyddwyr Addysg yn helpu awdurdodau lleol i fyfyrio ar eu harfer da presennol ac adeiladu ar eu gwaith i fynd i’r afael â’r materion hyn yn eu hysgolion.
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Mae gennym gyllideb dynn ac yn gorfod cyfiawnhau pob gwariant. Pam ddylem ni ymuno?
Mae bod yn aelod o Hyrwyddwyr Addysg Stonewall yn ddull cost-effeithiol i chi ddangos eich ymrwymiad i’r dasg o fynd i’r afael â bwlio homoffobig yn eich ysgolion lleol. Mae’r buddiannau a amlinellir uchod yn rhoi’r gefnogaeth a’r arbenigedd i’ch galluogi i greu canlyniadau mesuradwy ac i fesur eu llwyddiant.
Yn ôl y Ddeddf Cydraddoldeb, bydd gan bob corff cyhoeddus (gan gynnwys awdurdodau lleol, ysgolion ac academïau) ddyletswydd i ddileu gwahaniaethu, i ddatblygu cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da. Bydd hyn yn golygu y bydd disgwyl i’r cyrff hyn fynd i’r afael yn weithredol â materion sy’n gysylltiedig â chyfeiriadedd rhywiol fel bwlio homoffobig a diogelu’r rhai a all ei ddioddef. Bydd bod yn rhan o’r rhaglen yn gymorth i chi gydymffurfio â’r Ddeddf.
Cynlluniwyd y rhaglen i gyd-fynd â’r gwaith gwrth-fwlio rydych yn ei wneud eisoes. Mae ymchwil yn dangos, er bod awdurdodau lleol ac ysgolion wedi gwneud ymdrechion i fynd i’r afael â mathau eraill o fwlio fel bwlio hiliol, mae amryw’n ansicr sut i fynd i’r afael â bwlio homoffobig. Mae’r rhaglen yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad wedi’i deilwra ar sut i fynd i’r afael â bwlio homoffobig ac yn rhoi’r offer angenrheidiol i wneud hynny.
Pris aelodaeth y rhaglen Hyrwyddwyr Addysg yw £1500 y flwyddyn, ac mae’n seiliedig ar gyfnod ymuno cychwynnol o ddwy flynedd. Os yw eich awdurdod lleol eisoes yn Hyrwyddwr Addysg, mae aelodaeth ar gael am bris gostyngol o £1250 y flwyddyn.
Os hoffech fwy o wybodaeth am raglen Hyrwyddwyr Addysg Stonewall cysylltwch â Stonewall Cymru ar
Ffôn: 02920 237744
Ebost: addysg@stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen