Addysg

Mae’r wybodaeth ganlynol yn benodol ynglŷn â chyd-destun, grym cyfreithiol, gwasanaethau cynghori a datblygiad polisi Cymru.

Addysg yng Nghymru

Yng Nghymru, mae’r cyfrifoldeb dros addysg wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cynulliad Cymru; gan roi cyfle unigryw i ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau disgyblion, myfyrwyr ac athrawon Cymru.

Cafodd Adran 28 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol ei ddiddymu o’r diwedd yng Nghymru a Lloegr ar 18 Medi 2003. Cyn hyn, roedd canllawiau Cynulliad Cymru, Addysg Rhyw a Pherthynas mewn Ysgolion (2002) yn nodi’n glir nad oedd Adran 28 yn atal "trafodaethau gwrthrychol am gyfunrywioldeb" yn y dosbarth, gan ddiddymu Adran 28 i bob pwrpas flwyddyn yn gynharach yng Nghymru.

Mae Parchu Eraill: Canllawiau Gwrth-Fwlio (2003) Cynulliad Cymru yn cydnabod bodolaeth bwlio o ran cyfeiriadedd rhywiol ac yn nodi nad yw bwlio homoffobaidd wedi’i gyfyngu i ddisgyblion sy’n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol. Gall unrhyw un sy’n cael ei ystyried yn hoyw, sy’n cael ei weld yn ‘wahanol' neu nad yw’n cydymffurfio gyda phatrymau rhyw traddodiadol, ddioddef bwlio homoffobaidd.

Mae Parchu Eraill yn annog dull o daclo bwlio ledled yr ysgol. Bydd hyn yn cynnwys trafod perthynas cyfunrywiol a chyfeiriadedd rhywiol mewn gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol, codi ymwybyddiaeth am gamwahaniaethu a homoffobia ledled y cwricwlwm dysgu a chydnabod bwlio homoffobaidd mewn polisïau gwrth fwlio, polisïau ymddygiad a pholisïau Cyfle Cyfartal. Tynnir sylw hefyd at yr angen i herio iaith homoffobaidd. Defnyddir y gair 'gay' yn eang fel sarhad, ac mae angen ei herio yn yr un ffordd ag y mae iaith hiliol yn cael ei herio. Mae gan Parchu Eraill gefnogaeth drawsbleidiol.

Hefyd, mae Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, yn cynnwys gwerthusiad o effeithiolrwydd polisïau bwlio ysgolion fel rhan o’u meini prawf archwilio.

Yn 2006 comisiynwyd arolwg o weithrediad canllawiau Parchu Eraill gan Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes. Darganfu’r gwerthusiad mai’r polisïau mwyaf effeithiol yn gyson oedd y rhai a oedd adnabod a thaclo bwlio ledled bob 'ffrwd', gan gynnwys y rhai oedd yn trafod yn benodol sut mae bwlio homoffobaidd yn amlygu’i hun a sut y dylid ei ateb (Gwerthusiad Polisïau Gwrth-Fwlio mewn Ysgolion yng Nghymru, 2006).

Yr Adroddiad Ysgol

Datgelodd arolwg sylweddol o ysgolion uwchradd Prydain bod bron i ddwy ran o dair o ddisgyblion lesbiaidd a hoyw (156,000 o blant) wedi dioddef bwlio homoffobaidd.

Mae’r Adroddiad Ysgol, yr arolwg mwyaf erioed o bobl ifanc hoyw i’w gynnal ym Mhrydain, yn cyflwyno darlun ysgytwol o’r raddfa o fwlio homoffobaidd gan gyd-ddisgyblion ac, yn waeth fyth, staff ysgolion.

Ymysg y canfyddiadau allweddol:

  • Mae chwe deg pump y cant o ddisgyblion lesbiaidd a hoyw wedi dioddef bwlio homoffobaidd
  • O’r rhain, mae 92 y cant (143,000) wedi dioddef bwlio homoffobaidd ar lafar, 41 y cant (64,000) bwlio corfforol ac 17 y cant (26,000) fygythiadau i’w bywydau
  • Mae 97 y cant o ddisgyblion hoyw yn clywed ymadroddion sarhaus megis 'dyke', 'queer' a 'rug-muncher' yn yr ysgol
  • Mae hanner yr athrawon yn methu ag ymateb i iaith homoffobaidd yn eu clyw
  • Mae tri deg y cant o ddisgyblion lesbiaidd a hoyw yn dweud bod oedolion – athrawon neu staff cynorthwyol – yn gyfrifol am ddigwyddiadau homoffobaidd yn eu hysgolion
  • Mae llai na chwarter yr ysgolion wedi dweud wrth ddisgyblion bod bwlio homoffobaidd yn annerbyniol

Mae’r arolwg o 1,145 o bobl ifanc, a gynhaliwyd gan yr Uned Addysg Iechyd Ysgolion dros Stonewall, hefyd yn tynnu sylw at ganlyniadau bwlio ar gyfer disgyblion hoyw. Mae saith allan o ddeg o’r rhai a ddioddefodd yn dweud ei fod wedi effeithio’n negyddol ar eu gwaith ysgol. Mae hanner y rhai a gafodd eu bwlio’n dweud iddynt golli diwrnodau ysgol o ganlyniad.
Mae’r adroddiad yn dangos buddiannau sylweddol pan fo ysgolion yn ymyrryd. Mewn ysgolion sydd wedi dweud bod bwlio homoffobaidd yn annerbyniol, mae pobl ifanc hoyw 60 y cant yn fwy tebygol o beidio cael eu bwlio. Mae’r nifer o ddigwyddiadau bwlio gwrth-hoyw yn parhau i fod yn uwch mewn 'ysgolion ffydd'.

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.