Mae Stonewall Cymru yn cynnal cyfres o seminarau fel un o fuddiannau unigryw rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru.
Fel rhan o fuddiannau’r rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth, mae ein seminarau yn agored i staff ein haelodau. Am fwy o wybodaeth ar ddod yn Hyrwyddwr Amrywiaeth cliciwch yma.
Mae swyddogaeth allweddol gan bobl syth i’w chwarae yn y gwaith o greu gweithleoedd hoyw-gyfeillgar. Mae 100 Cyflogwr Gorau Stonewall yn dweud wrthym yn rheolaidd bod cynghreiriaid syth wedi bod yn allweddol o ran sicrhau triniaeth deg i’w staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Cewch glywed canfyddiadau canllaw gweithle Stonewall ac o cynghreiriaid syth ysbrydoledig gan aelodau o raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth.
Cadwch le nawr
Mwy o wybodaeth: Ebost neu ffoniwch 02920 237 744
Fel aelodau o raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth, mae croeso i chi hefyd fynychu seminarau Gweithle sy’n digwydd ledled Prydain. Am wybodaeth am raglen seminarau ein cydweithwyr yn Stonewall GB cliciwch yma (Gwefan Saesneg)
Mae Rhaglen Seminar Gweithle Stonewall Cymru 2010 yn cael ei datblygu. Os hoffai eich sefydliad gynnig testun neu gynnal Seminar, anfonwch ebost at gweithle@stonewallcymru.org.uk, neu ffoniwch 02920 237744.
Noder y gall yr holl destunau a dyddiadau uchod newid os fydd angen, er mwyn cyflawni anghenion ein haelodau Hyrwyddwyr Amrywiaeth.
Sylwadau am y dudalen