“Mae Cyngor Caerdydd yn falch o fod yn un o Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall. Mae aelodaeth wedi rhoi cyfle i ni gael adborth arbenigol defnyddiol sydd wedi gwella tegwch ein polisïau a’n gwasanaethau, yn ogystal ag adeiladu cysylltiadau gyda’n gweithwyr LHD, partner fudiadau a grwpiau cymunedol.
Er bod y Cynllun yn benodol ar gyfer cyfeiriadedd rhywiol, mae offer fel y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn gosod patrwm ar gyfer gwelliannau ledled pob ffrwd o amrywiaeth.
Pan ymunwyd gyda’r cynllun yn 2006 ein huchelgais oedd cyrraedd y "100 Uchaf”. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyflawni’r uchelgais hwn, ond yn sylweddoli bellach fod Aelodaeth yn cynnig llawer mwy. Rwy’n argymell i bob awdurdod lleol yng Nghymru ymuno.”
“Mae ein pobl wrth galon ein holl waith, a gyda hyn mewn cof mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo at hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’r cyfle a gyflwynwyd drwy Stonewall i rwydweithio gyda chyflogwyr eraill yn werthfawr wrth ein cynorthwyo i wella’n ffyrdd o gefnogi pobl i roi eu gorau a hefyd i’n cynorthwyo i ddenu’r dalent orau i weithio dros bobl Cymru.”
“Rydym yn ymfalchïo yn amrywiaeth ein staff, ac yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ymarferol yn ein holl waith. Mae bod yn aelod o Raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru yn cefnogi gwaith ein Grŵp Ffocws LHD ac yn helpu i glustnodi blaenoriaethau ar gyfer ein Cynllun Gweithredu LHD.”
“Yma yn Heddlu De Cymru rydym yn freintiedig iawn o gael cyfle i weithio gyda Stonewall Cymru, sydd yn ddi-os yn gyfrwng i yrru cydraddoldeb cyfeiriadedd rhywiol ar ein hagenda. Rydym yn parhau i gael cysylltiad cryf gyda hwy, ac yn gwerthfawrogi’r ymchwil a’r farn sy’n dod o gyfeiriad Stonewall sy’n ein cynorthwyo i dyfu a datblygu ymhellach. Rydym yn falch iawn o’n perthynas barhaus a’n statws Hyrwyddwr Amrywiaeth.”
“Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o fod yn Hyrwyddwr Amrywiaeth, wedi ymrwymo at hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth rydym yn derbyn fframwaith sy’n sicrhau agwedd gynhwysfawr at hyrwyddo cydraddoldeb, gan gynnwys canllawiau a digwyddiadau i rannu gwybodaeth ac arfer da. Mae Stonewall Cymru yn darparu cefnogaeth ac anogaeth ardderchog sy’n ein cynorthwyo i wireddu ein hymrwymiad at gyflawni cydraddoldeb LHD.”
Sylwadau am y dudalen