Buddiannau

HafanYmaelodi NawrCymeradwyaethAchos busnes 

Buddiannau allweddol ar gyfer Hyrwyddwyr Amrywiaeth

  • Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle – Defnyddiwch ein arf meincnodi i asesu gwaith eich mudiad ar gydraddoldeb LHD yn erbyn arfer da Stonewall, a chyfarfod meincnodi er mwyn penderfynu ar eich camau nesaf.

  • Mynediad uniongyrchol at arbenigedd ym mhob maes cydraddoldeb cyfeiriadedd rhywiol, gyda chefnogaeth eich rheolwr cyfrif cleientiaid, a 4 seminar arfer da yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn ledled Cymru.

  • Logo Hyrwyddwyr Amrywiaeth – Logo dwyieithog i’w ddefnyddio yn eich brandio mewnol ac allanol. Dangoswch eich ymrwymiad at eich staff a defnyddwyr LHD.

  • Cyfleoedd Rhwydweithio  – fel rhan o fforwm amrywiaeth cyflogwyr mwyaf a chynyddol y DU.

  • Cynhadledd Gweithle Stonewall Cymru – y newyddion diweddaraf am gydraddoldeb LHD, gyda gostyngiadau a blaenoriaeth wrth archebu ar gyfer y digwyddiad allweddol hwn.

  • Canllaw Recriwtio Starting Out – codi eich proffil fel cyflogwr o ddewis gydag erthygl olygyddol rhad ac am ddim. Anfonir ledled y DU ac arlein ar www.startingoutguide.org.uk.

  • Byddwch yn flaengar mewn materion cydraddoldeb LHD, yn cwmpasu popeth o’r ‘nenfwd gwydr dwbl’ sy’n wynebu menywod lesbiaidd a deurywiol, i farchnata ar gyfer cymunedau LHD.

  • Rhaglen Arweiniad – gostyngiadau i ymgeiswyr llwyddiannus i raglen Stonewall ar gyfer arweinwyr LHD, mewn partneriaeth gydag Ysgol Fusnes Ashridge.

  • Newyddion rheolaidd – cewch dderbyn ein e-fwletin misol, a bod gyda’r cyntaf i dderbyn copïau o ymchwil a chanllawiau arfer da Stonewall.

  • Cyflogwyr Balch – cewch estyn allan at gronfa dalent ehangach drwy hysbysebu ar ein safle swyddi, ar gyfer Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn unig.

  • Ymgynghoriad Stonewall – Graddfeydd dyddiol gostyngol ar gyfer unrhyw waith sy’n digwydd drwy ein rhaglen gwasanaethau penodol.

  • Fforwm Aelodau Hyrwyddwyr Amrywiaeth – gallwch ymuno gyda’n byrddau trafod a chyrraedd at ein llyfrgell o adnoddau.

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth