Achos Busnes

 HafanYmaelodi NawrCymeradwyaethBuddiannau   

Mae achos busnes clir dros ganolbwyntio ar gyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle:


Brand ac Enw Da

  • Dangoswch eich ymrwymiad at amrywiaeth i’ch staff, cymuned a chleientiaid.
  • Cewch rwydweithio gyda chyflogwyr yn eich sector, nodi eich hun fel arweinydd lleol ac elwa o rwydweithio traws sector.
  • Gallwch elwa o deyrngarwch brand  a chael mynediad at y farchnad LHD sydd yn cael ei amcangyfrif gwerth £70 biliwn y flwyddyn, drwy ddangos eich cefnogaeth i’r gymuned LHD.
  • Mae’r farchnad caffael sector gyhoeddus werth 15% o GDP, neu £220 biliwn (Trysorlys Ei Mawrhydi, 2010). Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gofyn i gwmnïau sector breifat ddangos eu henw da ar amrywiaeth wrth ennill cytundebau sector gyhoeddus.

Recriwtio a chadw

  • Mae pobl yn perfformio’n well pan mae modd iddynt fod yn agored. Mae cuddio cyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle yn lleihau cynhyrchiant – rhaid i weithwyr fedru cyfathrebu ac adeiladu perthynas gefnogol, gydweithredol gyda chydweithwyr, cleientiaid a defnyddwyr (Peak Performance, Stonewall, 2008).
  • Mae cyflogwyr blaengar yn cydnabod y dylai eu gweithlu adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth er mwyn gwasanaethu anghenion cwsmeriaid a defnyddwyr. Erbyn 2011, 14.4% yn unig o weithlu Prydain fydd yn ddynion gwyn, heb anabledd, dan 35 ac yn heterorywiol (IES 2010). Gosodwch eich mudiad fel cyflogwr o ddewis ar gyfer talent amrywiol.
  • Mae rhagfarn yn costio’n ddrud i staff – mae bwlio yn y gweithle yn cyfrannu at golli £12 biliwn i gyflogwyr yn flynyddol drwy absenoldeb yn gysylltiedig â straen (HSE, 2006).

Lliniaru Risg

  • Gallwch osgoi costau gwaelodlin ar gyfer cyflogwyr mewn ffioedd cyfreithiol, recriwtio, cyflwyno a hyfforddi staff newydd, ac adennill hyder budd-ddeiliaid allweddol. Cyn belled, £120,000 yw’r swm mwyaf sydd wedi’i ddyfarnu gan dribiwnlys cyflogaeth ar gyfer camwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Nid oes cyfyngiad ar y swm y gellir ei ddyfarnu.
  • Deddf Cydraddoldeb – rhaid i bob corff sy’n cael nawdd cyhoeddus ddangos sut maent yn ystyried anghenion staff a defnyddwyr LHD yn rhagweithiol.
  • Yng Nghymru, mae’r Dyletswyddau Cyhoeddus yn golygu bod rhaid i gyflogwyr osod nodau cydraddoldeb clir yn ogystal â gweithio gyda’r gymuned LHD a chasglu data ar eu perfformiad.

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth