Yn aml, y cam cyntaf i ddatrys problem yn y gwaith fydd ei chodi yn anffurfiol gyda’ch rheolwr neu uwch reolwr. Gallai mynd o’i chwmpas felly ddatrys y mater yn gyflym ac yn llwyddiannus. Fodd bynnag, os nad ydych allan yn y gwaith, neu os nad ydych yn gyfforddus yn siarad gyda’ch rheolwr ynghylch y gwahaniaethu neu’r bwlio rydych yn ei brofi, mae llwybrau eraill y gallech roi cynnig arnynt cyn defnyddio’r broses gwyno ffurfiol.
Os oes grŵp rhwydwaith yn eich gweithle ar gyfer gweithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol, gallech siarad â nhw am yr anawsterau rydych yn eu profi i ddechrau. Efallai y bydd hyn yn lle da i fynd i gael cyngor a chymorth. Gallai hefyd eich helpu i nodi camau gweithredu pellach, neu bobl ddefnyddiol i fynd atynt yn y sefydliad i drafod eich profiadau.
Dewis arall fyddai siarad â Stonewall. Gall ein llinell wybodaeth rad ac am ddim (08000 50 20 20) gynnig gwybodaeth am gydraddoldeb cyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle. Os yw eich cyflogwr yn aelod o’n cynllun Hyrwyddwyr Amrywiaeth, efallai y gallwn roi pwyntiau cyswllt defnyddiol i chi yn eich gweithle y gallech siarad â nhw am yr anawsterau yr ydych yn eu cael. Gallwn hefyd eich cyfeirio at gyfreithwyr hoyw-gyfeillgar neu grwpiau cymorth yn eich ardal.
Fodd bynnag, os nad yw’r ffyrdd uchod yn datrys y mater, gallech ystyried defnyddio gweithdrefn gwyno ffurfiol eich cyflogwr. Dylech allu dod o hyd i amlinelliad o’r weithdrefn hon yn y lleoedd canlynol:
• llawlyfr gweithwyr
• adran adnoddau dynol
• contract cyflogaeth
• mewnrwyd staff
Dylai cyflogwyr amlinellu eu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion yn ysgrifenedig, a dylent fod yn eglur gyda gweithwyr sut y bydd y broses hon yn gweithio.
Mae Cod Ymarfer ACAS yn trafod gweithdrefnau cwyno cyflogwyr, gan nodi yr hyn y dylech chi a’ch cyflogwr ei wneud er mwyn ymdrin ag achosion o gwyno. Cod newydd yw hwn, a daeth i rym ar 6 Ebrill 2009.
Mae llawer o weithwyr yn poeni y byddant yn cael eu diswyddo neu’n wynebu camdriniaeth yn y gweithle. Fodd bynnag, mae’r gyfraith yn dweud na ddylech gael eich diswyddo am godi cwyn ddilys ynghylch un o’r hawliau cyflogaeth statudol, er enghraifft, os ydych yn teimlo eich bod wedi profi gwahaniaethu oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol. Ni ddylech chwaith ddioddef anfantais (e.e. peidio â chael dyrchafiad neu golli goramser) am godi cwyn ddilys ynghylch eich hawliau cyflogaeth.
Yn ôl y Cod, gallai gweithdrefn gwyno eich cyflogwr gynnwys y camau canlynol:
• ysgrifennu llythyr at eich cyflogwr
• cwrdd â’ch cyflogwr
• apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr os byddwch yn anfodlon
Y llythyr cwyno
Dylech nodi manylion eich cwyn yn ysgrifenedig a’i chyflwyno i’ch cyflogwr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi dyddiad ar y llythyr ac yn cadw copi eich hunan, oherwydd efallai y bydd arnoch ei angen yn ddiweddarach. Ceisiwch drafod yr holl bwyntiau ffeithiol sy’n esbonio pam rydych yn gwneud eich cwyn. Efallai y gallwch hefyd gynnwys yn eich llythyr fanylion yr hyn yr hoffech iddyn nhw ei wneud er mwyn datrys y broblem. Er enghraifft, efallai y byddwch am gael ymddiheuriad ganddyn nhw neu gan eich cydweithwyr, neu efallai y byddwch am weld gwell hyfforddiant ar amrywiaeth neu gydraddoldeb cyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle.
Cyfarfod i drafod y gŵyn
Ar ôl iddynt gael eich llythyr, dylai eich cyflogwr drefnu cyfarfod gyda chi ar adeg resymol ac mewn lle rhesymol i drafod y materion rydych chi wedi eu codi yn eich cwyn. Dylech wneud pob ymdrech i fynd i’r cyfarfod. Mae gennych hawl gyfreithiol i fynd â rhywun gyda chi i’r cyfarfod, sef cydweithiwr neu gynrychiolydd Undeb Llafur.
Mae gan rai Undebau Llafur grwpiau penodol neu fforymau ar gyfer aelodau lesbiaidd, hoyw a deurywiol, a allai fod yn ddefnyddiol os ydych yn teimlo’n anghyfforddus yn mynd at eich cynrychiolydd lleol. Fodd bynnag, i ddechrau bydd angen i chi wneud cais i fynd â rhywun gyda chi i’r cyfarfod. Os na fydd cydweithiwr yn fodlon mynd gyda chi, ac nad ydych yn aelod o undeb llafur, gofynnwch i’ch cyflogwr a allwch ddod ag aelod o’ch teulu neu weithiwr Cyngor ar Bopeth gyda chi i’r cyfarfod. Nid oes rhaid i’ch cyflogwr gytuno i’r cais.
Yn ystod y cyfarfod, gall eich cydymaith gyflwyno ar eich rhan, neu grynhoi eich achos, siarad ar eich rhan, neu drafod materion sy’n cael eu codi gyda chi yn ystod y cyfarfod. Fodd bynnag, os caiff cwestiynau eu cyfeirio atoch chi, ni all yr unigolyn eu hateb ar eich rhan. Os ydyn nhw’n poeni ynghylch sut y gallai dod i’r cyfarfod gyda chi effeithio arnyn nhw, gallwch eu sicrhau eu bod yn ddiogel rhag diswyddo annheg nac unrhyw gamdriniaeth arall am eich cefnogi.
Cyn mynd i’r cyfarfod, efallai y bydd yn fuddiol gwneud cofnod ysgrifenedig o’r pethau rydych chi am eu codi yn y cyfarfod, fel bod gennych rywbeth o’ch blaen i’ch atgoffa, rhag ofn i chi anghofio pwyntiau pwysig rydych chi am eu gwneud. Gallai hyn fod yn arbennig o fuddiol os ydych yn teimlo bod mwy nag un achlysur pan fo rhywun wedi aflonyddu arnoch neu wedi eich bwlio neu wahaniaethu yn eich erbyn.
Eich cyflogwr fydd yn penderfynu ar ffurf y cyfarfod, ond fel arfer byddant yn siarad gyda chi am y pwyntiau rydych chi’n eu codi ac yn caniatáu i chi wneud sylwadau neu ymhelaethu ar y pwyntiau. Bydd hyn yn gymorth i’ch cyflogwr sefydlu ffeithiau’r broblem ac o bosibl ystyried ffyrdd o ddatrys y materion wrth law. Efallai y bydd angen i’ch cyflogwr ymchwilio ymhellach, ac os felly dylent aildrefnu’r cyfarfod er mwyn gorffen y trafodaethau yn ddiweddarach.
Ar ôl y cyfarfod, dylai eich cyflogwr ysgrifennu atoch i ddweud wrthych beth y maent wedi ei benderfynu.
Yr apêl
Os nad ydych yn fodlon gyda phenderfyniad eich cyflogwr, neu os ydych yn credu bod y weithdrefn a ddilynwyd yn anghywir, gallwch wneud apêl.
Dylech wneud eich apêl cyn gynted ag y gallwch, heb oedi afresymol. Dylai eich cyflogwr roi digon o amser i chi wneud yr apêl. Dylech wneud ymdrech i ddilyn holl weithdrefnau’r cyflogwr, gan y bydd unrhyw Dribiwnlys Cyflogaeth yn y dyfodol yn ystyried hyn wrth ddod i farn.
Dylech nodi yn ysgrifenedig fanylion eich apêl – pam rydych yn ei gwneud, a pham nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad sydd wedi ei wneud. Lle bo’n bosibl, dylai rheolwr gwahanol ac ar lefel uwch ymdrin â’ch apêl.
Mae gwrandawiad yr apêl yn debyg i’r cyfarfod gwreiddiol, ac mae gennych hawl i gydymaith, fel o’r blaen.
Ar ôl y cyfarfod apêl, rhaid i’ch cyflogwr ddweud wrthych beth y maent wedi ei benderfynu. Dyma benderfyniad terfynol eich cyflogwr.
Tribiwnlysoedd Cyflogaeth
Os ydych wedi bod drwy’r gweithdrefnau hyn i gyd a’ch bod chi’n dal i fod yn anfodlon gyda’r penderfyniadau sydd wedi eu gwneud, dylech ystyried mynd i dribiwnlys cyflogaeth: www.employmenttribunals.gov.uk.
Mae terfyniadau amser o ran faint o amser y gallwch ei aros cyn mynd i dribiwnlys. Fel arfer mae angen mynd i dribiwnlys o fewn tri mis ar ôl y digwyddiad yr ydych yn gwneud cwyn amdano. Mae hyn yn golygu bod angen i chi wneud yn siŵr nad yw’r broses gwyno yn mynd â chi dros y terfyn amser hwn.
Ers cyflwyno’r Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) yn 2003, mae nifer o achosion tribiwnlys llwyddiannus wedi bod mewn achosion o wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Mae mwy o wybodaeth amdanynt ar gael yma. (Gwefan Saesneg)
Pa gamau eraill y gallai cyflogwyr a gweithwyr eu cymryd?
Mae camau eraill ar gael heblaw am gwynion ffurfiol a thribiwnlysoedd. Gallai’r rhain gynnwys:
• Cymodi: pan fydd hawliad tribiwnlys wedi ei wneud, neu ar fin cael ei wneud, caiff cymodi ei gynnig i’r ddwy ochr er mwyn ceisio datrys y mater heb fod angen mynd i wrandawiad. Mae’n wirfoddol ond rhaid i’r ddau barti gytuno i’r broses er mwyn i hynny ddigwydd.
• Cyfryngu: Math gwirfoddol o ddatrys anghydfod yw cyfryngu. Mae’n cynnwys rhywun diduedd (cyfryngwr) sy’n helpu unigolion neu grwpiau i ganfod ateb i anghydfod. Gall y cyfryngwr siarad gyda’r ddwy ochr ar wahân neu gyda’i gilydd. Nid yw cyfryngwyr yn dod i farn, ond gallant helpu’r bobl berthnasol i ddeall y materion a rhoi eglurder o ran yr opsiynau er mwyn datrys y mater.
• Cymrodeddu: Dull gwirfoddol arall yw cymrodeddu, sy’n golygu gofyn i rywun diduedd o’r tu allan wneud penderfyniad ar anghydfod. Bydd y cymrodeddwr yn penderfynu ar achos ar sail y dystiolaeth y bydd y partïon yn ei chyflwyno. Er mwyn i gymrodeddu ddigwydd, rhaid i’r ddau barti gytuno eu bod am fynd i broses gymrodeddu; dylent hefyd gytuno ymlaen llaw y byddant yn cadw at y penderfyniadau a wneir.
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithdrefnau amgen hyn a sut y gallent fod o gymorth, gweler gwefan ACAS.
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar y wefan hon, gallwch ffonio ein llinell wybodaeth ar 08000 50 20 20 (Dydd Llun – Dydd Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe wnawn ein gorau i’ch cyfeirio i’r man cywir.
• Rheoliadau Cyflogaeth a Deddf Cydraddoldeb 2010
• Chwiliwch yn ein cronfa ddata beth sydd yn fy ardal am gyfreithwyr hoyw-gyfeillgar a gwasanaethau cyngor
• Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth
Sylwadau am y dudalen