Deddf Cydraddoldeb 2010 – Cyflogaeth

Ers 2003, mae deddfwriaeth bwysig wedi gwahardd gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol ym maes cyflogaeth.

Ers 1 Hydref 2010, mae’r Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) wedi eu disodli gan ddarpariaethau yn y Ddeddf Cydraddoldeb. Fodd bynnag, nid oes newid yn yr amddiffynfeydd sydd gennych yn erbyn gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn y gwaith, nac yn rhwymedigaethau cyflogwyr.

Cafodd trosolwg o’r amddiffynfeydd cyflogaeth ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ei lunio gan goleg y Frenhines Mari Prifysgol Llundain mewn partneriaeth â Stonewall. (gwefan Saesneg)

projects to develop LGB community infrastructures.

• Pa amddiffynfeydd sydd ar gael?
• Pwy sy'n cael ei amddiffyn? 
• Eithriadau 
• Gorfodi 

Pa amddiffynfa sydd ar gael i weithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol?

Mae’r gyfraith yn gwahardd gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol ym maes cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn benodol yn gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol ac uniongyrchol, aflonyddu ac erledigaeth oherwydd cyfeiriadedd rhywiol.

Yn ôl y Ddeddf Cydraddoldeb, mae trin pobl yn llai ffafriol nag eraill ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn golygu gwahaniaethu uniongyrchol.
Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn golygu gweithredu darpariaeth, maen prawf neu arfer sy’n rhoi pobl o gyfeiriadedd rhywiol penodol o dan anfantais, ac nad oes modd ei gyfiawnhau fel dull cymesur o gyrraedd nod dilys.

Caiff aflonyddu ei ddiffinio fel ymddygiad digroeso sy’n ymyrryd ag urddas pobl neu sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu sarhaus.

Mae deddfwriaeth newydd yn rhoi amddiffynfa i weithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn ystod eu holl berthynas gyflogaeth – o recriwtio hyd at ddiswyddo. Mae’r gwaharddiad ar wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn berthnasol i delerau ac amodau, tâl, dyrchafu, trosglwyddiadau, hyfforddiant a diswyddo.

Pwy sy’n cael ei amddiffyn?

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol p’un a yw cyfeiriadedd rhywiol rhywun tuag at bobl o’r un rhyw, y rhyw arall neu’r ddau ryw. Mae hynny’n golygu bod y gyfraith yn diogelu pawb rhag gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol: lesbiaid, dynion hoyw, pobl ddeurywiol a phobl heterorywiol/syth.

Nid dim ond ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol go iawn mae’r ddeddfwriaeth newydd yn amddiffyn pobl. Mae gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol tybiedig neu ganfyddedig hefyd wedi ei wahardd ac nid yw’n bwysig a yw’r dybiaeth ynghylch cyfeiriadedd rhywiol rhywun yn gywir neu’n anghywir.

Mae’r gyfraith hefyd yn amddiffyn y bobl hynny sy’n profi gwahaniaethu oherwydd cyfeiriadedd rhywiol y bobl maen nhw’n ymwneud â nhw – aelodau eu teulu a’u ffrindiau.

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn ymdrin â’r canlynol:

• Pob cyflogwr a gweithiwr contract ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)
• Swydd-ddeiliaid
• Yr Heddlu
• Bargyfreithwyr a chyfreithwyr
• Partneriaethau
• Sefydliadau masnach
• Cyrff cymwysterau
• Darparwyr hyfforddiant galwedigaethol
• Asiantaethau cyflogaeth

Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru:

Mae cyrff sector cyhoeddus Cymru, megis awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac asiantaethau’r llywodraeth yn dod o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r is-ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus Cymru osod nodau cydraddoldeb eglur, gan nodi sut yn union y byddant yn cyflawni ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig ac yn casglu data ar gyfansoddiad eu gweithlu. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Eithriadau

Er ei bod yn ddeddfwriaeth arwyddocaol sy’n diogelu pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ym maes cyflogaeth, mae rhai meysydd yn dal i fod lle gallai gwahaniaethu ddigwydd a lle na fyddai hynny’n anghyfreithlon.

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn caniatáu gwahaniaethu lle mae hyn yn ofyniad galwedigaethol gwirioneddol, sy’n rheswm ‘dilys, tyngedfennol a chymesur’ ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr fod â chyfeiriadedd rhywiol penodol.
Gallai pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol hefyd wynebu gwahaniaethu gan sefydliadau crefyddol. Mae’r Rheoliadau yn caniatáu gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol ‘at ddiben crefydd gyfundrefnol’ lle mae dysgeidiaeth y grefydd yn gorchymyn hynny neu lle mae’n ofynnol oherwydd ‘argyhoeddiad gadarn nifer sylweddol o ddilynwyr y grefydd’. Yn ystod y drafodaeth ar y rheoliadau gwreiddiol a gyflwynwyd yn 2003, pwysleisiodd un o weinidogion y llywodraeth, yr Arglwydd Sainsbury Turville, mai dim ond i ‘ystod cyfyng iawn o swyddi’ y byddai’r eithriad hwn yn berthnasol: ‘gweinidogion yr efengyl, a nifer fach o swyddi y tu allan i’r weinidogaeth, gan gynnwys y rhai sy’n bodoli i hyrwyddo a chynrychioli crefydd’. Mae dyfarniad yr Uchel Lys ar y Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth newydd yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol yn y gwaith wedi cadarnhau mai cyfyng yw’r cwmpas ar gyfer gwahaniaethu gan sefydliadau crefyddol. Ni ellir diswyddo athrawon mewn ysgolion ffydd, er enghraifft, am fod yn lesbiad neu’n hoyw.

Mae’r rheoliadau newydd hefyd yn cynnwys eithriad cyffredinol os oes angen gwarchod diogelwch gwladol.

Beth fydd Stonewall yn ei wneud am hyn?

Mae Stonewall yn awyddus i atal sefydliadau crefyddol rhag defnyddio’r eithriadau er mwyn gwahaniaethu.

Gorfodi

Gall pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol sydd wedi profi gwahaniaethu oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol gyflwyno cwyn i dribiwnlys cyflogaeth. Llysoedd sirol fydd yn gwrando achosion o wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol ym maes hyfforddiant ac addysg. Rhaid cyflwyno cwynion i dribiwnlysoedd cyflogaeth o fewn tri mis i’r weithred o wahaniaethu, ac o fewn chwe mis yn achos llysoedd sirol.
Mae baich y profi ar y cyflogwr. Golyga hyn bod rhaid i’r cyflogwr ddangos nad ydynt wedi torri’r gyfraith, yn hytrach na bod rhaid i’r gweithiwr brofi bod gwahaniaethu wedi bod.

Cefndir

Crëwyd Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003 fel rhan o waith y Deyrnas Unedig yn gweithredu Cyfarwyddeb Fframwaith Cyflogaeth yr Undeb Ewropeaidd 2000, oedd yn ei gwneud yn ofynnol i aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd wahardd gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol, yn ogystal â mathau eraill o wahaniaethu a restrwyd yn Erthygl 13, ym maes cyflogaeth erbyn diwedd 2003. Cynhaliodd llywodraeth y Deyrnas Unedig gyfres o ymarferion ymgynghori cyhoeddus gyda phob sefydliad ac unigolyn oedd yn gweithio ac oedd â diddordeb ym maes cydraddoldeb cyflogaeth, a chyflwynodd ei Rheoliadau drafft i senedd y Deyrnas Unedig, a gytunodd â’r Rheoliadau ym mis Mehefin 2003.

O 1 Hydref 2010 ymlaen, mae darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol ym maes cyflogaeth a hyfforddi.
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar y wefan hon, gallwch gysylltu â’n llinell gymorth ar 08000 50 20 20 (Dydd Llun – Dydd Gwener 9.30am – 5.30pm) ac fe wnawn ein gorau i’ch cyfeirio i’r man cywir.

Pynciau cysylltiedig
________________________________________
• Camwahaniaethu yn y gweithle. Dim mwy
• Y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth 
• ACAS - y gwasanaeth ymgynghorol ar gyflogaeth 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth