Cynhadledd Gweithle Stonewall Cymru 2012
Cynhaliwyd ein cynhadledd gweithle blynyddol – digwyddiad hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio i sicrhau cydraddoldeb lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) yn y gweithle – am yr ail waith ar 26 Medi 2012.
Dywedodd 100% o'r cynadleddwyr bod y gynhadledd yn ardderchog neu'n dda.
Gweler sylwadau rhai o'n cynadleddwyr isod, a chadwch eich llygaid ar agor am fanylion Cynhadledd Gweithle Stonewall Cymru 2013.
"Un o'r cynadleddau gorau y bûm iddi erioed, os nad y gorau un. Rwy'n edrych ymlaen at ddefnyddio rhywfaint o'r wybodaeth hon yn fy man gwaith fy hun. Gwych iawn"
"Doeddwn i ddim yn gwybod rhyw lawer am Stonewall pan wnes i fynd i'r gynhadledd, ond roedd y gynhadledd yn fuddiol iawn ac yn llawn gwybodaeth"
"Mae gen i restr o gamau gweithredu ac awgrymiadau da i'w rhoi ar waith. Rwyf wedi ehangu fy rhwydwaith ac wedi mwynhau dysgu pethau newydd - Diolch yn fawr Stonewall Cymru!"
Am fwy o wybodaeth neu i fynegi diddordeb mewn cynadleddau eraill yn y dyfodol, ffoniwch 02920 237 761 neu anfonwch ebost at workplace@stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen