Mae Stonewall wedi lansio cyfres o Ganllawiau Gweithle ar gyfer aelodau rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth.
Cynlluniwyd y Canllawiau i ddarparu’r arfer gorau i gyflogwyr o ran ymgysylltu’n ymarferol gyda staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Lansiwyd y cyntaf, sy’n delio â sefydlu rhwydwaith gweithwyr ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol, ym mis Tachwedd 2005.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r canllaw grwpiau rhwydwaith (Yn Saesneg yn unig)
Mae’r ail, a lansiwyd yng Ngorffennaf 2006, yn delio â monitro cyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle, ac yn tynnu sylw at enghreifftiau o Hyrwyddwyr Amrywiaeth sydd wedi cyflwyno monitro cyfeiriadedd rhywiol yn llwyddiannus.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r canllaw monitro (Yn Saesneg yn unig)
Mae’r trydydd, sy’n delio ag atal bwlio staff hoyw, yn edrych ar ffyrdd dyfeisgar a chreadigol y gall cyflogwyr gefnogi ac amddiffyn eu staff LHD rhag aflonyddu anghyfreithlon, ac fe’i lansiwyd yn Ionawr 2007.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r canllaw atal bwlio (Yn Saesneg yn unig)
Mae’r pedwerydd, sy’n edrych ar ddatblygu gyrfa, yn trafod y rhwystrau y gall gweithwyr lesbiaidd a hoyw eu hwynebu yn eu gyrfaoedd, ac yn cynnwys enghreifftiau o gyflogwyr a addasodd eu rhaglenni datblygu gyrfa i gydnabod y rhwystrau hyn. Lansiwyd y canllaw ym mis Medi 2007.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r canllaw datblygu gyrfa LHD (Yn Saesneg yn unig)
Mae’r pumed, ar grefydd a chyfeiriadedd rhywiol, yn edrych ar feysydd o wrthdaro posibl rhwng cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd. Mae’n cynnwys astudiaethau achos a deg o awgrymiadau ar ymgysylltu gyda staff ar y materion hyn. Lansiwyd y canllaw ym mis Mai 2009.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r canllaw ‘Crefydd a Chyfeiriadedd Rhywiol’ (Yn Saesneg yn unig)
Mae’r chweched, ar bobl ddeurywiol yn y gweithle, yn edrych ar y materion unigryw sy’n wynebu gweithwyr deurywiol, a all eu hatal rhag cyflawni eu potensial yn y gwaith. Mae’n cynnwys argymhellion allweddol ac chyngor yn ogystal â deg o awgrymiadau ar gefnogi cynhwysiad deurywiol yn y gweithle. Lansiwyd y canllaw ym mis Hydref 2009.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r canllaw ‘Pobl Ddeurywiol yn y Gweithle’ (Yn Saesneg yn unig )
Marchnata: Sut i Farchnata i Ddefnyddwyr Hoyw yw’r seithfed yn ein cyfres o ganllawiau gweithle. Mae’n edrych ar y cylch marchnata ac yn awgrymu sut i gynnwys eich cymuned lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Mae’r canllaw wedi’i rannu’n bedair adran:
· Yr achos busnes
· Mentrau marchnata arloesol
· Sut i gyrraedd yno – sicrhau fod y mudiad yn barod cyn lansio’ch menter
· Dilyniant – camau i’w cymryd ar ôl lansio
I lwytho fersiwn pdf o’r canllaw i lawr cliciwch yma. (Saesneg yn unig)

Mae Stonewall wedi lansio canllaw newydd i helpu gweithleoedd a darparwyr gwasanaethau i egluro monitro i’w gweithwyr a’u defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r adnodd arloesol hwn yn gosod yr achos dros fonitro ledled pob ffrwd cydraddoldeb, gan gynnwys anabledd, rhyw neu hunaniaeth rhywiol, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chred ac oed.
Os hoffech mwy o gopïau o’r canllaw, cysylltwch drwy anfon ebost atom yma. Neu gallwch lwytho fersiwn PDF i lawr yma.
Mae Stonewall wedi cynhyrchu’r canllawiau hyn i gynnig cymorth a chyngor ymarferol i gyflogwyr ar sut i gydymffurfio gyda’r deddfau newydd a chael y gorau allan ohonynt. Mae’n rhoi amlinelliad manwl o’r ddeddfwriaeth a’r hyn y mae’n ei olygu’n ymarferol.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r fersiwn Saesneg.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r fersiwn Gymraeg.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r ychwanegiad i’r fersiwn Gymraeg
Stonewall yn lansio canllaw i gynorthwyo busnesau bychain i amddiffyn staff hoyw a chyrraedd at y ‘bunt binc’ gwerth £70biliwn
Fel canllawiau eraill Stonewall gyda chefnogaeth yr Adran Diwydiant a Masnach, mae Gay People, Your Business: What small employers need to know, yn darparu cyngor clir ar Reoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003 ac mae hefyd wedi’i gymeradwyo gan y Ffederasiwn Busnesau Bychain ac Acas.
Y cyntaf o’i fath, mae’r canllaw bychan maint A5 yn egluro i reolwyr a pherchnogion busnesau bychain sut mae’r ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt, ac yn cynnig awgrymiadau ar gamau pellach tu hwnt i gydymffurfiaeth, a bod yn gystadleuol yn y farchnad gyfoes, drwy ddefnyddio astudiaethau achos o fusnesau bach go iawn.
Cynhyrchodd Stonewall y canllaw hwn gan bod nifer o gyflogwyr bychain eto i gynnwys y ddeddfwriaeth yn llawn i’w harferion gwaith, ac mae llai fyth yn manteisio ar y bunt binc, a amcangyfrifir ei fod werth £70 biliwn.
I ddarllen mwy, lawrllwythwch y canllaw yma (yn saesneg yn unig) neu gofynnwch am gopi caled drwy anfon ebost at cymru@stonewallcymru.org.uk neu drwy ffonio 029 20 237744.
‘Discrimination at work. It’s so over’ -
Mae’r canllaw clir hwn i weithwyr yn rhoi amlinelliad bras o’r rheoliadau cyflogaeth newydd, yr hyn sy’n cael ei gwmpasu ganddynt, a’r hyn y gallwch ei wneud i gymryd camau yn erbyn aflonyddu a chamwahaniaethu. I lawrlwytho’r canllaw yn unrhyw un o’r 12 iaith, gan gynnwys Cymraeg a Saesneg cliciwch yma.
Sylwadau am y dudalen