Pecynnau Cymorth Cyflogwyr

Canllawiau gweithleoedd | Canllawiau polisi | Pecynnau Cymorth Cyflogwyr | Archebu Ar-lein

Pecynnau cymorth i gyflogwyr ac unigolion

Beth yw'r pwynt?

Beth yw'r pwynt?

Mae Stonewall wedi lansio canllaw newydd i helpu gweithleoedd a darparwyr gwasanaethau i egluro monitro i’w gweithwyr a’u defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r adnodd arloesol hwn yn gosod yr achos dros fonitro ledled pob ffrwd cydraddoldeb, gan gynnwys anabledd, rhyw neu hunaniaeth rhywiol, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chred ac oed.

Os hoffech mwy o gopïau o’r canllaw, cysylltwch drwy anfon ebost atom yma.
Neu gallwch lwytho fersiwn PDF i lawr yma. 

Beth yw'r ots i fi?

BYOIF cover

Mae Beth yw'r ots i fi? yn esbonio wrth bobl pam fod ‘cydraddoldeb ac amrywiaeth’ yn bwysig a sut i wneud yn siŵr bod eu gwasanaethau lleol yn darparu gwasanaethau cydradd. Wedi’i gyhoeddi fel ymateb i ddarpariaethau newydd yn y Ddeddf Cydraddoldeb, mae’n rhoi cynghorion ar y modd y gall y cyhoedd gadw golwg i weld a yw eu hysbytai a’u hysgolion lleol a chyrff chyhoeddus eraill yn gwneud popeth y dylent ei wneud o dan y Ddeddf. 

Os hoffech mwy o gopïau o’r canllaw, cysylltwch drwy anfon ebost atom yma.
Lawrlwythwch fersiwn .pdf o’r daflen yma.

Canllaw busnesau bychain

Stonewall yn lansio canllaw i gynorthwyo busnesau bychain i amddiffyn staff hoyw a chyrraedd at y ‘bunt binc’ gwerth £70biliwn

Fel canllawiau eraill Stonewall gyda chefnogaeth yr Adran Diwydiant a Masnach, mae Gay People, Your Business: What small employers need to know, yn darparu cyngor clir ar Reoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003 ac mae hefyd wedi’i gymeradwyo gan y Ffederasiwn Busnesau Bychain ac Acas.

Y cyntaf o’i fath, mae’r canllaw bychan maint A5 yn egluro i reolwyr a pherchnogion busnesau bychain sut mae’r ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt, ac yn cynnig awgrymiadau ar gamau pellach tu hwnt i gydymffurfiaeth, a bod yn gystadleuol yn y farchnad gyfoes, drwy ddefnyddio astudiaethau achos o fusnesau bach go iawn.

Cynhyrchodd Stonewall y canllaw hwn gan bod nifer o gyflogwyr bychain eto i gynnwys y ddeddfwriaeth yn llawn i’w harferion gwaith, ac mae llai fyth yn manteisio ar y bunt binc, a amcangyfrifir ei fod werth £70 biliwn.

I ddarllen mwy, lawrllwythwch y canllaw yma (yn saesneg yn unig) neu gofynnwch am gopi caled drwy anfon ebost at cymru@stonewallcymru.org.uk neu drwy ffonio 029 20 237744.

 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth