Canllawiau gweithleoedd | Canllawiau polisi | Pecynnau Cymorth Cyflogwyr | Archebu Ar-lein

Mae canllaw diweddaraf Stonewall ar arwain yn rhoi bywyd i’r hyn rydym wedi ei ddysgu ynghylch grym arweiniad gwirioneddol yn ein gwaith, a hynny drwy straeon gan 17 o fodelau rôl lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy’n arwain mewn ystod o ddiwydiannau.
Mae’r canllaw hwn yn dangos yn eglur i arweinwyr hoyw a’u cyflogwyr beth yw gwerth amgylchedd lle gall arweinwyr fel hyn wireddu eu llawn botensial.
Cefnogir y cyhoeddiad hwn gan gwmni IBM.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 wedi creu un Ddyletswydd Cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus (‘y ddyletswydd’ fel y’i gelwir) sy’n ymdrin â chyfeiriadedd rhywiol am y tro cyntaf. Mae’r ddyletswydd newydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried anghenion eu defnyddwyr gwasanaeth hoyw wrth ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r canllaw hwn mewn Saesneg clir yn dweud wrth gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau yn union beth y mae angen iddynt ei wybod a’i wneud er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf yn eu gweithleoedd ac wrth ddarparu gwasanaethau.
Mae gwybodaeth i gyflogwyr sy’n dod o dan Ddyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru i’w gweld ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mae’r sefydliadau gorau yn gwybod bod siarad gyda phobl leol ynghylch yr hyn sydd ei angen arnyn nhw mewn gwasanaethau cyhoeddus yn allweddol o ran eu gwneud yn gost-effeithlon ac effeithiol. Fodd bynnag, mae llawer ohonynt yn ansicr pam a sut mae cynnwys pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol mewn penderfyniadau ynghylch y gwasanaethau cyhoeddus maen nhw’n talu amdanynt.
Dyna pam fod Stonewall wedi cyhoeddi’r canllaw arloesol hwn ar gyfer cyrff cyhoeddus ynghylch sut i gynnwys pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn eu gwaith.
Lawrlwythwch y canllaw yma.
Am y tro cyntaf, mae’r ymchwil arloesol hwn gan Stonewall yn amlinellu achos busnes grymus dros sicrhau arfer da o ran cyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle. Mae’r astudiaeth, sy’n seiliedig ar dros gant o gyfweliadau manwl gyda phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol o 21 o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat, wedi canfod bod bron â bod yr holl gyfranogwyr yn nodi cysylltiad cadarnhaol rhwng hinsawdd y gweithle a’u cynhyrchiant a’u perfformiad eu hunain.
Noddir y cyhoeddiad hwn gan gwmni IBM.
Lawrlwythwch yr adroddiad yma.

Yn aml iawn mae cyflogwyr yn mynegi pryder am nifer fach y merched agored-hoyw sydd yn eu gweithleoedd, a’r niferoedd llai fyth sy’n cymryd rhan yng ngwaith y sefydliad ar faterion cyfeiriadedd rhywiol. Roedd Stonewall am ymchwilio i’r mater, ac felly cynhaliwyd yr ymchwil hwn. Mae’r canlyniadau yn awgrymu bod merched hoyw yn teimlo yn aml bod eu rhywedd yn fwy o rwystr i’w llwyddiant yn y gwaith na’u cyfeiriadedd rhywiol.
Cefnogir y cyhoeddiad hwn gan Grŵp Bancio Lloyds.
Lawrlwythwch yr adroddiad yma.
Sylwadau am y dudalen