Canllawiau gweithleoedd

Canllawiau polisi | Pecynnau Cymorth Cyflogwyr | Archebu Ar-lein

Cyfres o ganllawiau arfer da ar gyfer cyflogwyr yn cynnwys ffyrdd ymarferol o weithredu arferion gwaith ac astudiaethau achos diddorol er mwyn sicrhau gweithle cynhwysol ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Using Monitoring Data: Making the most of sexual orientation data collection

Mae’r canllaw hwn yn archwilio’r manteision i gyflogwyr sy’n casglu data am gyfeiriadedd rhywiol eu gweithwyr, eu cwsmeriaid a’u defnyddwyr gwasanaeth. Mae’n esbonio sut y gallant ddefnyddio’r data hwnnw i ddeall a gwella profiadau eu gweithlu, yn ogystal â deall yn well pwy yw eu cwsmeriaid, ac yn y pen draw, cynnig gwell gwasanaeth iddynt.
 
Mae’r canllaw wedi ei rannu yn bedair adran:
• Yr achos busnes
• Pryd i fonitro
• Gwneud y gorau o’r monitro
• Beth i’w wneud â’r data
Lawrlwythwch gopi .pdf o'r canllaw Using Monitoring Data

Global working: Supporting lesbian, gay and bisexual staff on overseas assignments

Mae’r canllaw hwn yn edrych ar y manteision i gwmnïau byd-eang sy’n ystyried goblygiadau penodiadau rhyngwladol ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae hefyd yn archwilio sut mae’r sefydliadau gorau yn defnyddio eu dylanwad byd-eang i hyrwyddo gweithleoedd gwell ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled y byd.
 
Mae’r canllaw wedi ei rannu yn chwe adran:
• Profiadau pobl hoyw sy’n gweithio ledled y byd
• Yr achos busnes
• Polisïau ac arferion hoyw-gyfeillgar
• Cefnogi penderfyniadau staff ynghylch adleoli
• Cefnogi staff mewn gwlad arall
• Dylanwadu ar ddiwylliannau gweithleoedd dramor
Lawrlwythwch fersiwn .pdf o'r canllaw Global Working.

Lluniwyd y canllaw hwn gyda chefnogaeth cwmni Google.

Procurement: Embedding lesbian, gay and bisexual equality in the supply chain

Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor ymarferol i sefydliadau ar fanteision annog eu cyflenwyr i wella eu gweithleoedd a’u gwasanaethau ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae’r canllaw yn cynnwys astudiaethau achos gan Hyrwyddwyr Amrywiaeth.

Mae’r canllaw wedi ei rannu yn bum adran:
• Yr Achos Busnes
• Polisïau
• Proses dendro
• Gweithio gyda chyflenwyr a ddewiswyd
• Dal cyflenwyr i gyfrif

Lawrlwythwch fersiwn .pdf o'r canllaw Procurement.

Straight Allies: How to help create gay-friendly workplaces

Mae swyddogaeth allweddol gan bobl syth i’w chwarae yn y gwaith o greu gweithleoedd hoyw-gyfeillgar. Mae 100 Cyflogwr Gorau Stonewall yn dweud wrthym yn rheolaidd bod cynghreiriaid syth wedi bod yn allweddol o ran sicrhau triniaeth deg i’w staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

 
Mae’r canllaw wedi ei rannu yn bum adran:
• Pam bod yn gynghreiriad
• Ar y top
• Uwch reolwyr
• Rheolwyr llinell
• Cynghreiriaid syth ar bob lefel

Lawrlwythwch fersiwn .pdf o'r canllaw Straight Allies.

Marketing: How to Market to Gay Consumers

Marketing: How to Market to Gay Consumers yw’r seithfed yn ein cyfres o ganllawiau gweithle. Mae’n edrych ar y cylch marchnata ac yn awgrymu sut i gynnwys eich cymuned lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Mae’r canllaw wedi’i rannu’n bedair adran:

  • Yr achos busnes
  • Mentrau marchnata arloesol
  • Sut i gyrraedd yno – sicrhau fod y mudiad yn barod cyn lansio’ch menter
  • Dilyniant – camau i’w cymryd ar ôl lansio

I lwytho fersiwn pdf o’r canllaw i lawr cliciwch yma.

Bisexual People in the Workplace

Mae’r chweched, ar bobl ddeurywiol yn y gweithle, yn edrych ar y materion unigryw sy’n wynebu gweithwyr deurywiol, a all eu hatal rhag cyflawni eu potensial yn y gwaith. Mae’n cynnwys argymhellion allweddol ac chyngor yn ogystal â deg o awgrymiadau ar gefnogi cynhwysiad deurywiol yn y gweithle. Lansiwyd y canllaw ym mis Hydref 2009.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r canllaw ‘Bisexual People in the Workplace’

Religion & Sexual Orientation

Mae’r pumed, ar grefydd a chyfeiriadedd rhywiol, yn edrych ar feysydd o wrthdaro posibl rhwng cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd. Mae’n cynnwys astudiaethau achos a deg o awgrymiadau ar ymgysylltu gyda staff ar y materion hyn. Lansiwyd y canllaw ym mis Mai 2009.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r canllaw ‘Religion & Sexual Orientation’

Career Development

Mae’r pedwerydd, sy’n edrych ar ddatblygu gyrfa, yn trafod y rhwystrau y gall gweithwyr lesbiaidd a hoyw eu hwynebu yn eu gyrfaoedd, ac yn cynnwys enghreifftiau o gyflogwyr a addasodd eu rhaglenni datblygu gyrfa i gydnabod y rhwystrau hyn. Lansiwyd y canllaw ym mis Medi 2007.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r canllaw 'Career Development'

Bullying

Mae’r trydydd, sy’n delio ag atal bwlio staff hoyw, yn edrych ar ffyrdd dyfeisgar a chreadigol y gall cyflogwyr gefnogi ac amddiffyn eu staff LHD rhag aflonyddu anghyfreithlon, ac fe’i lansiwyd yn Ionawr 2007.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r canllaw atal 'Bullying'

Network Groups

Lansiwyd y cyntaf, sy’n delio â sefydlu rhwydwaith gweithwyr ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol, ym mis Tachwedd 2005.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r canllaw 'Network Groups'

(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth