10 Cyflogwr Gorau Stonewall Cymru

Cyhoeddodd Stonewall eu rhestr o 100 Cyflogwr Gorau ar gyfer 2012 ar 11 Ionawr.  Yma yn Stonewall Cymru, rydym yn falch iawn bod deuddeg o gyflogwyr o Gymru yn y 100 uchaf.

Lawrlwytho ein canllaw

Y 10 Cyflogwr Gorau yng Nghymru yw:

1. Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
2. Grŵp Bancio Lloyds
3. Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4. Heddlu De Cymru
5. Heddlu Gogledd Cymru
6. Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
7. Cymorth i Ddioddefwyr Cymru
8. Prifysgol Caerdydd
9. Cyngor Caerdydd
10. Swyddfa Ystadegau Gwladol

Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru gael eu henwi fel ‘Cyflogwr Gorau Cymru’.  Mae mynegai eleni hefyd yn cynnwys cyflogwyr newydd o Gymru, yn eu plith y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a gyrhaeddodd y 100 uchaf am y tro cyntaf.


Mae Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Gwent hefyd ar y rhestr. Dyma’r tro cyntaf i bob un o’r pedwar Heddlu yng Nghymru gael eu henwi yn 100 Cyflogwr Gorau Stonewall.  Mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gogledd Cymru wedi ymddangos yn rheolaidd yn y 100 uchaf, ac mae’r ddau ymysg y 5 llu heddlu sy’n perfformio orau ym Mhrydain.
Cewch weld y rhestr llawn o’r 100 Gorau yma.

 “Am y tro cyntaf rydym yn medru tynnu sylw at 10 Cyflogwr Gorau Cymru. Mae’n cynnwys asiantaethau llywodraeth, llywodraeth leol, y trydydd sector a’r sector preifat.  Yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw ymrwymiad clir at wneud y gweithle yng Nghymru yn lle gwell ar gyfer pob gweithiwr.  Mae bob un wedi dangos hyn drwy aelodaeth weithredol o’n rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth.” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru.  “Fel cyflogwyr blaengar maent yn credu bod pobl yn cyflawni mwy pan fo modd iddynt fod yn agored.”


Mae 100 Cyflogwr Gorau Stonewall yn cynnwys y mudiadau sy’n sgorio uchaf yn y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle – arolwg meincnodi blynyddol Stonewall ar gyfer cyflogwyr.  I ddysgu mwy am y mynegai, cliciwch yma.


Cewch weld ymateb ein cyflogwyr gorau i’r newyddion da drwy ddarllen ein datganiad i’r wasg.

 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth