Enillwyr Gwobrau 

100 Cyflogwr Gorau – 10 Cyflogwr Gorau Cymru – Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle – Hyrwyddwyr Amrywiaeth   

Cyflogwr Gorau Cymru

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yw Cyflogwr Gorau Stonewall Cymru 2013. Am y bumed flwyddyn yn olynol yr asiantaeth hon sydd wedi cael y sgôr uchaf o blith yr holl gyflogwyr o Gymru yn y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, gan gynnwys adborth gan eu staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Eleni mae Rhwydwaith Staff LHDT yr asiantaeth wedi canolbwyntio ar ymgysylltu â staff sy’n gweithio mewn lleoliadau anghysbell a gwledig. Mae gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i staff LHD i’w gweld yn amlwg mewn swyddfeydd rhanbarthol lle nad oes mynediad gan staff i system mewnrwyd y sefydliad. Mae arweinydd Cymru y rhwydwaith hefyd ar gael i gwrdd â staff maes, yn codi ymwybyddiaeth o faterion LHD a gweithgareddau’r rhwydwaith.

"Rydyn ni’n falch iawn o gael ein henwi yn gyflogwr gorau Cymru am y bumed flwyddyn yn olynol."

"Mae hyn yn dyst i waith ein rhwydwaith LHDT ac agwedd ein holl staff.  Mae sicrhau bod ein staff yn teimlo’n gyfforddus ac yn hyderus i fod yn nhw eu hunain yn y gweithle yn creu gweithlu hapusach a mwy cynhyrchiol.  Rwy’n ei theimlo hi’n anrhydedd bod Stonewall Cymru wedi cydnabod y llwyddiant hwn."

Chris Mills
Cyfarwyddwr, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Cyflogwr Gorau Sector Preifat Cymru

Grŵp Bancio Lloyds

Ers ymuno â Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru yn 2011, mae Grŵp Bancio Lloyds wedi parhau i ddatblygu cefnogaeth benodol i gydweithwyr yng Nghymru drwy ei rwydwaith LHDT, Enfys, a’u llysgennad rhanbarthol yng Nghymru.

MaMae’r Grŵp hefyd wedi cynyddu ei ymdrechion i ymgysylltu â’r gymuned LHDT ehangach yng Nghymru. Ym mis Medi, cynhaliwyd brecinio Mardi Gras cyntaf Stonewall Cymru, cyn parêd Mardi Gras Caerdydd, gan Grŵp Bancio Lloyds. Daeth cefnogwyr Stonewall Cymru i’r digwyddiad, yn ogystal â Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a roddodd anerchiad. Ymunodd aelodau o’r Rhwydwaith Enfys â staff Stonewall Cymru yn y parêd i godi ymwybyddiaeth am ymgyrch Stonewall Cymru dros briodas gyfartal.
 
“Rydyn ni’n cydnabod bod rhai heriau a chyfleoedd penodol i’n cydweithwyr LHDT, a phobl LHDT eraill, yng Nghymru. Mae’r ffaith bod y Grŵp wedi ei enwi yn Gyflogwr Gorau Sector Preifat Cymru yn destun llawenydd a balchder i fi. Mae’n gydnabyddiaeth bwysig o’n hymdrechion, ac fe wnaf yn siŵr ein bod yn parhau i wneud cynnydd”.

Rupert McNeil
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Grŵp, Grŵp Bancio Lloyds

 

Hyrwyddwr Gweithle Cymru

Y Prif Gwnstabl Peter Vaughan
Heddlu De Cymru

Yn Heddlu De Cymru, mae’r Prif Gwnstabl Vaughan yn dangos ei ymrwymiad i staff LHD yn ei waith fel Hyrwyddwr LHD yr heddlu. 

Mae’r Prif Gwnstabl wedi cefnogi datblygiad Rhwydwaith Staff Hoyw yr heddlu, ac mae hefyd wedi ymgysylltu â staff fel rhan o gyfres o sesiynau hyfforddi penodol i faterion LHD a anelwyd at reolwyr llinell. Y Prif Gwnstabl Vaughan oedd yn rhoi anerchiad i agor y digwyddiadau hyn, gan annog rheolwyr i fod yn fodelau rôl ac i ddatblygu diwylliant cynhwysol yn y gweithle.

“Rwy’n angerddol ynghylch hyrwyddo cynwysoldeb a pharch ar gyfer yr holl staff, ac rwy’n cydnabod bod swyddogion a staff sy’n teimlo y gallant fod yn nhw eu hunain yn y gweithle yn gweithio’n well ac yn fwy tebygol o gyrraedd eu potensial. Rydw i wrth fy modd yn cael y wobr hon, sy’n adlewyrchiad o’r holl waith caled sydd wedi ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny gan ein timau, aelodau’r Rhwydwaith Staff Hoyw, unigolion a rheolwyr, yn datblygu ac yn rhannu arfer da er mwyn cefnogi pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol a meithrin diwylliant cynhwysol.”

Peter Vaughan,
Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru

 

Gwelliant Mwyaf gan Gyflogwr yng Nghymru

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Sir y Fflint a welodd y gwelliant mwyaf yn ei sgôr, o blith y 24 o gyflogwyr yng Nghymru a gymerodd ran. Bellach maent yn safle rhif 118 o blith y 376 o gyflogwyr a gyflwynwyd i’r Mynegai eleni.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwella mewn meysydd fel uwch arweiniad ac ymgysylltu â staff. Er mwyn cofnodi Mis Hanes LHDT, rhoddwyd sylw i bobl LHDT ym maes chwaraeon gan Rwydwaith LHDT y Cyngor, ‘Llais’, a hynny ar stondinau arddangos a oedd i’w gweld mewn gwahanol leoliadau yn y sir. Cafodd y wybodaeth hon ei dangos hefyd mewn canolfannau hamdden ledled Sir y Fflint i gyd-fynd â phasio’r Fflam Olympaidd ym mis Mai.

"Mae cael gwobr am y gwelliant mwyaf gan gyflogwr yng Nghymru yn 2013 yn destun llawenydd a balchder i ni. Mae’r wobr hon yn cydnabod ein taith a’n hymrwymiad i’r gwaith o ddatblygu gweithle cynhwysol a chynnig gwasanaethau o ansawdd uchel i’r cyhoedd. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n rhwydwaith gweithwyr LHDT er mwyn adeiladu ar ein llwyddiant."

Helen Stappleton,
Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu’r Sefydliad, Cyngor Sir y Fflint

Grŵp Rhwydwaith Gweithwyr Gorau Cymru


Grŵp LHDT y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae Grŵp LHDT y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn un o randdeiliaid allweddol y sefydliad, yn cynghori ar bolisi, hyfforddi, ymgysylltu â staff a chyfeiriad strategol y sefydliad.

Mae’r rhwydwaith hefyd yn allweddol o ran codi ymwybyddiaeth ynghylch materion LHD yn y sefydliad. Trefnodd y grŵp LHDT ddangosiad mewnol o ffilmiau byr mewn partneriaeth â Gŵyl Gwobr Iris, a chynhaliodd drafodaethau gyda staff fel rhan o Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Amrywiaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
 
Mae’r Grŵp LHDT yn gweithio’n agos gyda’r adran Adnoddau Dynol er mwyn dadansoddi canlyniadau arolygon staff yn ôl hunaniaeth rywiol. Gan gydnabod bod eu staff Deurywiol yn llai bodlon, mae’r rhwydwaith yn gweithio mewn partneriaeth â grŵp deurywiol lleol er mwyn cynyddu nifer y staff deurywiol y mae’n ymgysylltu â nhw.

“Rydyn ni wedi gweithio’n galed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i wella’r grŵp a sicrhau bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn meithrin amgylchedd gweithio cynhwysol ac amrywiol. Rydyn ni wrth ein boddau bod ein gwaith caled yn cael ei gydnabod drwy ein galw yn ‘Grŵp Rhwydwaith Gweithwyr Gorau Cymru’. Gobeithio y bydd hyn yn ein hysbrydoli ni i wneud hyd yn oed yn well yn y dyfodol."

Ruth James a Paul Hossack
Cyd-Gadeiryddion, Grŵp LHDT y Swyddfa Ystadegau Gwladol

 











 

 Darllenwch yr adroddiad

Mwy o wybodaeth foniwch 02920 237 774