Yn yr adran hon:
Troseddau casineb yw unrhyw ddigwyddiad yn erbyn person neu eiddo sydd wedi ei ysgogi gan gasineb y troseddwr tuag at bobl sy’n cael eu gweld yn wahanol. Gall y gwahaniaeth fod yn gyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhyw, neu hil, tarddiad ethnig, crefydd, anabledd neu ryw.
Mae troseddau casineb homoffobaidd yn brifo. Gallant ddrysu ac achosi dychryn, a gallant ddigwydd eto. Drwy wneud cwyn, efallai y bydd modd i chi atal y troseddau hyn rhag digwydd eto i chi neu rywun arall.
Peidiwch ag ofni gwneud cwyn wrth yr Heddlu am unrhyw gamdriniaeth homoffobaidd yr ydych yn ei ddioddef – byddant yn delio gyda’r hyn a ddywedwch wrthynt yn sensitif ac yn broffesiynol. Mae’r pedwar Heddlu ledled Cymru sef Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru yn cymryd troseddau casineb o ddifrif ac mae eu swyddogion wedi’u hyfforddi i drin pawb gyda pharch ac urddas.
Ond os nad ydych yn teimlo bod modd i chi siarad yn uniongyrchol gyda’r Heddlu gallwch lenwi Ffurflen Hunan-Adrodd, neu gysylltu gydag asiantaeth gefnogaeth megis Cymorth i Ddioddefwyr a fydd yn eich cynorthwyo, hyd yn oed os na fyddwch yn gwneud cwyn wrth yr Heddlu.
Gellir cwyno wrth yr Heddlu am bob digwyddiad homoffobaidd e.e. : camdriniaeth ar lafar, poeri, graffiti sarhaus, yn ogystal â throseddau, mewn dwy ffordd:
• Cysylltu yn uniongyrchol gyda’r Heddlu – drwy ffonio’ch heddlu lleol, 101, neu drwy ffonio 999 os yw’r drosedd yn digwydd ar y pryd, neu mewn argyfwng.
• Llenwi Ffurflen Hunan-adrodd am Ddigwyddiad – ceir y Ffurflenni hyn mewn llefydd cyhoeddus, a gellir eu llenwi naill ai yn ddienw neu gan gynnwys manylion cyswllt.
Bydd yr Heddlu yn:
Bydd yr heddlu yn cyfeirio dioddefwyr troseddau at Cymorth i Ddioddefwyr, felly bydd staff Cymorth i Ddioddefwyr yn cysylltu gyda chi i gynnig cymorth. Yng Nghymru, mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi datblygu prosiect mewn partneriaeth gyda Stonewall Cymru i annog mwy o ddioddefwyr a thystion troseddau casineb homoffobaidd a thrawsffobaidd, boed yn ‘hoyw neu strêt’, i ddefnyddio gwasanaeth cefnogi gwell Cymorth i Ddioddefwyr¹.
Cysylltu gyda’ch Heddlu:
Mae gan Heddlu Dyfed Powys Swyddogion Troseddau Casineb hyfforddedig i helpu dioddefwyr pob trosedd casineb. Maent yn gweithio gyda’r heddlu i sicrhau fod yr achos yn cael ei ddatrys yn gyflym, ac i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i’r dioddefwyr, yn cynnwys nodi mesurau i leihau’r tebygrwydd o ddioddef trosedd arall. Roedd hyfforddiant y Swyddogion Troseddau Casineb yn cynnwys siarad gydag aelodau cymunedau lleiafrifol am eu profiadau o droseddau casineb.
Mae gan Heddlu Gwent swyddogion cyswllt lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol hyfforddedig ar gyfer dioddefwyr troseddau casineb. Mae’r Swyddogion Cyswllt LHDT yn darparu cefnogaeth ychwanegol i ddioddefwyr drwy gydol yr ymchwiliad. Gobeithir y bydd yr adnodd ychwanegol hwn sydd ar gael i ddioddefwyr yn annog y rhai sydd wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd i gael mwy o hyder i wneud adroddiad.
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru swyddogion Amrywiaeth i helpu a chefnogi dioddefwyr pob trosedd casineb, ac i weithio gyda swyddogion yr heddlu i sicrhau fod yr achos yn cael ei ddatrys yn gyflym, gan roi tawelwch meddwl i’r gymuned. Roedd hyfforddiant y Swyddogion Amrywiaeth yn cynnwys siarad gydag aelodau cymunedau lleiafrifol am eu profiadau o droseddau casineb.
Mae Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd Heddlu De Cymru yn gweithio gyda staff llinell flaen a Swyddogion Troseddau Casineb i roi cymorth a chefnogaeth i aelodau cymunedau lleiafrifol, yn arbennig dioddefwyr troseddau casineb a digwyddiadau difrifol. Blaenoriaeth sylfaenol i’r Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd yw darparu’r gwasanaeth gorau posib, gyda’r nod o sicrhau lefelau uchel o fodlonrwydd ymysg dioddefwyr wrth daclo troseddau a digwyddiadau casineb.
Mae’r Ffurflen Hunan Adrodd am Ddigwyddiad yn caniatáu i chi fel dioddefwr, tyst, rhiant, gofalwr neu unrhyw berson â phryder i wneud adroddiad am ddigwyddiad wrth yr Heddlu heb siarad yn uniongyrchol gydag un o’r Heddweision. Mae gennych ddewis o roi cymaint neu cyn lleied o wybodaeth personol ag yr ydych yn dymuno.
Os fyddwch yn llenwi ffurflen yn ddienw, bydd yr Heddlu yn defnyddio’r wybodaeth i glustnodi patrymau ymddygiad mewn ardal. Os fyddwch yn rhoi eich manylion, bydd yr Heddlu yn cysylltu gyda chi i ymchwilio i’r digwyddiad, a gall hyn arwain at erlyn y troseddwr.
Mae Ffurflenni Hunan-adrodd am Ddigwyddiad ar gael gan Cymru Ddiogelach, a nifer o awdurdodau lleol. cliciwch yma:
Yng Nghymru, datblygodd Cymorth i Ddioddefwyr brosiect mewn partneriaeth gyda Stonewall Cymru i annog mwy o ddioddefwyr a thystion troseddau casineb homoffobaidd a thrawsffobaidd, boed yn ‘hoyw neu strêt’, i ddefnyddio gwasanaeth cefnogi gwell Cymorth i Ddioddefwyr¹.
Mae gwaith Stonewall Cymru gyda Chymorth i Ddioddefwyr yn 2010 ar brosiect Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri wedi sicrhau fod staff a gwirfoddolwyr Cymorth i Ddioddefwyr yn deall rhai o’r materion sy’n codi a’r gefnogaeth sydd ei angen ar bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy’n dioddef troseddau casineb. 'Cliciwch yma am daflen Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri.
Am wybodaeth am Linellau Cymorth LHD a grwpiau LHD lleol cliciwch yma
Gall yr Heddlu roi Cyngor Atal Troseddau i chi er mwyn amddiffyn pobl ac eiddo, megis newid cloeon ayyb a thrafod ffyrdd o gasglu tystiolaeth ee: gosod camera Cylch Cyfyng, canolbwyntio patrôl yr Heddlu ayyb. Gallant hefyd eich cyfeirio at Cymorth i Ddioddefwyr a grwpiau Gwarchod y Gymdogaeth.
Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch personol cliciwch yma
Cliciwch yma am wybodaeth ar helpu eich achos.
Mae Stonewall Cymru gyda chefnogaeth y 4 Bwrdd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, wedi cynhyrchu Canllaw ar gyfer dioddefwyr troseddau casineb homoffobaidd sy’n cynnwys gwybodaeth am y ffordd y mae asiantaethau Cyfiawnder Troseddol yn ymateb i droseddau casineb homoffobaidd a’r camau y gellir eu cymryd i’w atal.
Cliciwch yma i lwytho’r canllaw i lawr – Ydych chi wedi dioddef troseddau casineb homoffobaidd?
Mae’r System Cyfiawnder Troseddol wedi cydnabod bod nifer o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) yn poeni am roi manylion am eu hunaniaeth yn y llys, ac felly mae grymoedd newydd yn bodoli er mwyn cyfyngu ar adroddiadau’r cyfryngau, ac i ganiatáu’r tystion i beidio rhoi cyfeiriad cartref os nad yw’n angenrheidiol ar gyfer y dystiolaeth.
Am fwy o wybodaeth am hyn a gofal tystion, cliciwch yma am Gofal Tystion.
Bwriad cyfraith droseddol o ran troseddau trefn gyhoeddus yw cosbi’r defnydd o drais ac/neu fygythiad gan unigolion neu grwpiau, gan gynnwys trais anghyfreithlon, ymddygiad afreolus, a geiriau neu ymddygiad bygythiol, ymosodol neu sarhaus. Mae hefyd yn cynnwys troseddau o annog casineb yn erbyn pobl ar sail hil ac / neu grefydd, ond nid yw’n cynnwys ymddygiad ar sail homoffobaidd.
Lle bo ymosodiad yn cynnwys, neu wedi ei ysgogi gan, gasineb neu ragfarn ar sail cyfeiriadedd rhywiol (gwirioneddol neu rhagdybiaeth) mae’r gyfraith yn gosod rheidrwydd ar y barnwr i ystyried hyn wrth ddedfrydu’r troseddwr drwy:
Dylid nodi na fydd pob digwyddiad sy’n dod at sylw’r heddlu yn cael ei gyfrif fel trosedd; ni fydd pob digwyddiad sy’n drosedd yn arwain at ddod o hyd i’r troseddwr, a’i gyhuddo, ac ni fydd pob achos sydd yn dod at sylw Gwasanaeth Erlyn y Goron â digon o dystiolaeth o’r elfen homoffobaidd i fodloni adran 146 o’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol CJA 2003. Gall hyn fod am y rheswm nad yw’n ddigon amlwg neu ar ffurf sy’n caniatáu i’r llys ei ystyried wrth ddedfrydu’r diffynnydd.
Am fwy o wybodaeth am gynyddu dedfrydau am droseddau homoffobaidd cliciwch yma
Cyhoeddodd Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu (Association of Chief Police Officers - ACPO) ystadegau cyntaf pob trosedd casineb a adroddwyd ac a gofnodwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dengys ffigurau 2009 yn unig fod dros 50,000 o droseddau casineb wedi’u hadrodd wrth yr heddlu. Mae hyn yn dangos cynnydd ledled pob math o droseddau casineb – lle mae’r dioddefwr, neu unrhyw berson arall, yn teimlo fod y drosedd wedi’i hysgogi gan gasineb ar sail naill ai hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, neu fod person yn drawsrywiol. Cliciwch yma i weld data ACPO.
Hefyd cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu hystadegau erlyn ar gyfer pob trosedd casineb, a oedd yn dangos fod dros 52,000 o ddiffynyddion troseddau casineb wedi’u herlyn dros y bedair blynedd hyd at fis Mawrth 2010, cynnydd ar ffigurau 2009 o 49,000 a chyfradd euogfarnu o 82%. cliciwch yma i weld Adroddiad Troseddau Casineb Gwasanaeth Erlyn y Goron 2010
Dengys ffigurau Gwasanaeth Erlyn y Goron o droseddau casineb homoffobaidd fod 3,900 o ddiffynyddion wedi’u herlyn dros y 4 blynedd hyd at Mawrth 2010 – i fyny o 3.400 ar gyfer y 4 blynedd hyd at Mawrth 2009.
Yng Nghymru, ers 2006 mae Stonewall Cymru wedi bod yn casglu data ar Droseddau Casineb Homoffobaidd gan Heddluoedd Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Roedd cyfanswm ffigurau Heddluoedd Cymru bob blwyddyn yn dangos fod adroddiadau am droseddau casineb homoffobaidd ar gyfartaledd yn 424, ac yn gynnydd bach o tua 10%. O’r adroddiadau hynny cymerwyd 15% ar gyfartaledd gan Wasanaeth Erlyn y Goron fel erlyniadau yn erbyn diffynyddion homoffobaidd, ac roedd cynnydd o 100% mewn erlyniadau llwyddiannus rhwng 2006 a 2008.
Cliciwch yma am Ystadegau Cymru o adroddiadau ac achosion llwyddiannus ac i lwytho’r ystadegau i lawr.
Ym mis Mawrth 2010 daeth amddiffyniad cyfreithiol newydd pwysig i rym i wneud ymddygiad neu deunyddiau bygythiol, sydd â’r bwriad o annog casineb yn erbyn pobl ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol, yn anghyfreithlon.
Bu Stonewall yn ymgyrchu ers nifer o flynyddoedd am ddeddf benodol i ymestyn y troseddau cyfredol yn erbyn annog casineb ar sail hil a chrefydd, i amddiffyn pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol hefyd. Croesawir y mesurau hyn, y mae’n ddirfawr eu hangen.
Am wybodaeth am Ddeddf yn erbyn Annog Casineb cliciwch yma (yn Saesneg yu unig)
Mae llawer o waith partneriaeth yn digwydd rhwng Stonewall Cymru, aelodau o’r gymuned LHDT a phedwar Heddlu Cymru er mwyn cynyddu dealltwriaeth am y materion sy’n wynebu pobl LHDT ac i sicrhau bod pobl yn cael eu trin gydag urddas a pharch.
Serch hynny, weithiau gall pethau fynd o’i le, felly os ydych yn teimlo’n anfodlon gydag un o’r asiantaethau cyfiawnder troseddol, a’ch bod am gwyno cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Mae Stonewall Cymru mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill wedi datblygu nifer o adnoddau defnyddiol i daclo troseddau casineb homoffobaidd cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Canfu Stonewall fod cymaint â thri o bob pedwar person sy’n dioddef trosedd casineb homoffobaidd yn penderfynu peidio ag adrodd am y digwyddiad. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i lwytho cyhoeddiadau i lawr
*Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen