Ystadegau Cymru am Adroddiadau ac Achosion Llwyddiannus

Nid yw’r Swyddfa Gartref yn casglu ffigurau am ddigwyddiadau homoffobaidd. Serch hynny, ers 2006 mae Stonewall Cymru wedi bod yn gofyn i’r pedwar Heddlu a’r ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru i ddarparu eu data ar Droseddau Casineb Homoffobaidd.

Cliciwch yma i gael ystadegau Cymru ar adroddiadau ac ar achosion llwyddiannus ar gyfer blynyddoedd calendr 2011-2006.

Cliciwch yma i weld ystadegau am droseddau casineb homoffobaidd a adroddwyd i Heddluoedd Cymru ym mlynyddoedd calendr 2011-06.

Cliciwch yma i weld ystadegau am achosion o erlyn diffynyddion homoffobaidd gan Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru ym mlynyddoedd calendr 2011-06.

 

Wrth ddarllen yr ystadegau hyn mae’n bwysig nodi:

  • bod data’r Heddlu yn gyfanswm o gofnodion troseddol ac an-nhroseddol, ac felly’n cynnwys yr adroddiadau am ddigwyddiadau homoffobaidd na chymerwyd ymhellach yn sgil diffyg tystiolaeth ayyb, a’r rhai a arweiniodd at achos gan Wasanaeth Erlyn y Goron
  • weithiau bydd trosedd casineb homoffobaidd yn cael ei chofnodi mewn un flwyddyn gan yr Heddlu, ond ni fydd yr achos yn cyrraedd i’r llys nes y flwyddyn ganlynol
  • efallai bod troseddau casineb homoffobaidd a thrawsffobaidd wedi eu cyfrif.
  • bod poblogaeth lesbiaidd, hoyw a deurywiol Cymru tua 200,000

Mae cyfanswm ffigurau’r Heddlu ar gyfer 2006 - 2008 yn dangos ychydig o gynnydd mewn adroddiadau am droseddau casineb homoffobaidd wrth yr Heddlu. Mae’r cyfansymiau ym mhob ardal Heddlu yn aros yn weddol gyson.

Dengys cyfanswm ffigurau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer 2006 - 2008 gynnydd cyson mewn erlyniadau llwyddiannus o ddiffynyddion homoffobaidd.  Dengys ffigurau erlyniadau llwyddiannus 2008 gynnydd o 100% dros 2 flynedd ers 2006.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.